David Lloyd (deon Llanelwy)

Oddi ar Wicipedia
David Lloyd
Ganwyd1597 Edit this on Wikidata
Llanidloes Edit this on Wikidata
Bu farw1663, 7 Medi 1663 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethclerig, bardd Edit this on Wikidata

Clerigwr a bardd o Gymru oedd David Lloyd (1597 - 7 Medi 1663).

Cafodd ei eni yn y Berthlwyd, ym mhlwyf Llanidloes yn 1597 yn fab i David Lloyd ac yn nai i Oliver Lloyd, Deon Eglwys Gadeirlan Henffordd o 1617. Cofir Lloyd yn bennaf fel awdur gwatwargerdd o'r enw The Legend of Captain Jones, a gyhoeddwyd yn 1631.[1][2][3][4]

Graddiodd yn Hart Hall, Rhydychen, ar 22 Mehefin 1615, a'i ethol yn gymrawd All Souls College yn y dref honno ar 9 Mai 1618, a derbyniodd radd Bachellor mewn Cyfraith Sifil yn 1622 ac yna'n Ddoethor yn 1628. Cafodd ei wneud yn gaplan i William Stanley, 6ed iarll Derby; cafodd hefyd ei wneud yn ganon o Eglwys Gadeiriol Xaer yn 1639 a'i ddyrchafu'n rheithor Trefdraeth, Ynys Môn ar 2 Rhagfyr 1641. Pan ymddiswyddodd o'r swydd honno symudodd i Langynhafal, Dyffryn Clwyd ar 21 Rhagfyr, gan ddod yn ficar ym mhentref Llanfair Dyffryn Clwyd, ger Rhuthun.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Seccombe, Thomas (1893). "Lloyd, David (1597-1663)" . In Lee, Sidney (gol.). Dictionary of National Biography. 33. Llundain: Smith, Elder & Co. tt. 415–416.
  2. Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  3. Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/ https://biography.wales/article/s-LLOY-DAV-1597. Y Bywgraffiadur Cymreig. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2019.
  4. Man geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.