David Bowen (Patagonia)

Oddi ar Wicipedia

Cymro oedd David Bowen a ymfudodd o Sir Gaerfyrddin i Batagonia yn 1875. Bu'n allweddol yn sefydlu system dyfrhau yn yr ardal yn ogystal â bod yn un o golofnau cymdeithas y Wladfa.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd David Bowen yn 1844 ym mhentre Trelech-a'r-Betws yn Sir Gaerfyrddin. Symudodd i Pentre yn y Rhondda pan oedd yn ŵr ifanc a phriododd merch o'r enw Mary Anne Williams. Yn 1875 hwyliodd David Bowen, ei wraig a'i blant am Batagonia ar yr Olbers gan lanio ger aber yr afon Chubut ar 31 Hydref, 1875. Yn fuan wedyn symudodd y teulu o Rawson i Drofa Fresych ac ymgartrefon yno am dair blynedd. Symudont i'r Gaiman yn gynnar yn 1878 lle adeiladodd David Bowen dŷ ar droed y bryniau. Ar ddechrau gaeaf 1879 symudont i fferm fach yn Nyffryn Uchaf ac yn hwyrach, adnabyddwyd yr ardal yma fel Trebowen. Cafwyd yr ardal ei henwi ar ôl David Bowen.

Teulu[golygu | golygu cod]

Bu farw mab a merch hynaf David a Mary Anne wedi iddynt ddal teiffoid yn 1883. Am fwy o wybodaeth am y teulu gweler Cydymaith i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Bywyd ym Mhatagonia[golygu | golygu cod]

Daeth David Bowen yn aelod ac yn swyddog y capel a adeildwyd yn Nhrofa Gwen Ellis. Cafwyd leoliad newydd i'r capel a rhoddwyd yr enw Bethesda arno. Bu David Bowen yn ddiacon ac yn ysgrifennydd yng Nghapel Bethesda. Roedd yn un o'r grŵp a aeth lan i greigiau ar ben y Dyffryn Uchaf i chwilio am leoliad i adeiladu camlas. Bu ei wybodaeth am diroedd Dyffryn Uchaf yn fantais mawr i'r rhai oedd yn bwriadu adeiladu eu cartrefi yn yr ardal.

Bu David Bowen farw ar 16 Tachwedd, 1920 yn 76 oed. Mewn teyrnged yn Y Drafod, dyddiedig 26 Tachwedd, 1920, cofnodwyd ei fod wedi "gwneud ei orau dros ddatblygiad ysbrydol, moesol a chrefyddol y Wladfa ... gwladgarwr, yn enwedig yn gymwynasgar a pharod, serchog ac hoffus".

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]