Darius I, brenin Persia
| Darius I, brenin Persia | |
|---|---|
| Ganwyd | 550 CC |
| Bu farw | Tachwedd 486 CC |
| Dinasyddiaeth | Yr Ymerodraeth Achaemenaidd |
| Galwedigaeth | gwladweinydd, arweinydd milwrol, teyrn |
| Swydd | King of Kings, Pharo |
| Tad | Hystaspes |
| Mam | Irdabama |
| Priod | Atossa, Artystone, Parmys, Phaedymia, Phratagune |
| Plant | Xerxes I, brenin Persia, Abrocomes, Arsames, Gobryas, Artobazanes, Ariabignes, Artazostre, Masistes, Achaemenes, Hyperanthes, Hystaspes, Arsamenes, Ariomardus |
| Perthnasau | Gobryas, Otanes, Daurises, Hymaees |
| Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Pedwerydd brenin Ymerodraeth Persia oedd Darius I, Perseg: داریوش , Hen Roeg: Δαρεῖος, Dareios (c. 549 CC - 486 CC). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y brenin a arweiniodd ymgyrch gyntaf y Persiaid yn erbyn y Groegiaid.
Roedd Darius, oedd yn fab i Hystaspes, yn wreiddiol yn swyddog ym myddin Cambyses II, a bu'n ymgyrchu gydag ef yn yr Aifft. Tra'r oedd Cambyses yn ymgyrchu, gwrthryfelodd ei frawd Smerdis (Bardiya) yn ei erbyn. Ceir yr hanes gan Darius, a ddaeth i'r orsedd o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn. Dywed Darius i Cambyses gychwyn yn ôl i wrthwynebu Smerdis, ond iddo ei ladd ei hun pan welodd nad oedd gobaith iddo ennill. Dywed Herodotus iddo farw mewn damwain.
Daeth Darius yn arweinydd byddin Cambyses, a llwyddodd i orchfygu Smerdis a'i ladd, a chymeryd yr orsedd. Adeiladodd brifddinas newydd Persepolis. Bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod ei deyrnasiad; gwrthryfelodd Babilon fwy nag unwaith. Ymestynnodd ffiniau'r ymerodraeth ymhellach; arweniodd ei fyddinoedd cyn belled a dyffryn Afon Indus a meddiannodd Thrace yn Ewrop. Methodd ymgyrch yn erbyn Groeg pan orchfygwyd byddin Bersaidd ym Mrwydr Marathon yn 490 CC. Olynwyd ef gan ei fab, Xerxes I.
| Rhagflaenydd: Smerdis |
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia 522 CC – 486 CC |
Olynydd: Xerxes I |
| Rhagflaenydd: Smerdis |
Brenin yr Aifft 522 CC – 486 CC |
Olynydd: Xerxes I |