Neidio i'r cynnwys

Daniel Granville West

Oddi ar Wicipedia
Daniel Granville West
Ganwyd17 Mawrth 1904 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw23 Medi 1984 Edit this on Wikidata
Pont-y-pŵl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodVera Hopkins Edit this on Wikidata

Gwleidydd Llafur Cymreig oedd Daniel Granville West, Barwn Granville-West (17 Mawrth 190423 Medi 1984).[1] Ar ôl sefydlu practis cyfreithwyr llwyddiannus, dan arweiniad egwyddorion Bedyddwyr Cymru, daeth yn sosialydd blaenllaw yn yr oes ar ôl yr Ail Ryfel Byd.[2] Fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Bedyddwyr Saesneg y Tabernacl, Sir Fynwy, ac arhosodd yn aelod ymroddedig ar hyd ei oes. Yn amlwg yn yr wrthblaid yn ystod cyfnod Hugh Gaitskell yn y 1950au a dechrau'r 1960au, arhosodd yn ymrwymedig i gyfraith a threfn yng Nghymru, a gwladoli'r diwydiant rheilffyrdd. Cafodd ei ddychryn gan etifeddiaeth dirywiad yr Ymerodraeth Brydeinig a beiodd am gynyddu diweithdra yn y cymoedd.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd West yn Nhrecelyn, Sir Fynwy yn fab i John West ac Elizabeth (née Bridges) ei wraig . Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Trecelyn ac yna astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru lle enillodd wobr gyntaf yr adran.

Wedi cymhwyso ym 1929, gweithiodd West fel cyfreithiwr ym mhractis Chivers a Morgan oedd a siambrau ym Mhont-y-pŵl a Threcelyn.

Parhaodd traddodiad anghydffurfiol cryf i fod â phresenoldeb sylweddol yn y pleidiau Rhyddfrydol a Llafur yn gynnar yn yr Ugeinfed ganrif. Roedd Granville-West yn eiriolwr dros addysg anghydffurfiol fel Uwch-arolygydd yr Ysgol Sul. Ei bractis ef oedd yn gweithredu fel cyfreithiwr i Gymdeithas Bedyddwyr Sir Fynwy. Pan ddechreuodd y rhyfel roedd eisoes yn bersonoliaeth leol amlwg yn gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy 1939-47. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwasanaethodd yng Ngwarchodfa Gwirfoddolwyr y Llu Awyr Brenhinol, gan gael ei ddyrchafu'n Is-gapten Hedfan.[3]

Gyrfa Wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Enillodd West brofiad gwleidyddol rhwng y rhyfeloedd ar Gyngor Dosbarth Trefol Aberdarn rhwng 1934 a 1938, cyn cael ei wneud yn Gynghorydd Sir. Ar ôl i'r rhyfel ddod i ben cafodd ei ddadfyddino, a dychwelodd i'r proffesiwn cyfreithiol. Ailymunodd ag ef gyda'i bartner Emrys Morgan i ffurfio'r cwmni Granville-West a Morgan. Wedi'i annog gan lywodraeth Attlee i geisio sedd yn y senedd, fe ymgeisiodd am enwebiad Pont-y-pŵl oherwydd bod ei gwmni wedi cymryd drosodd practis Harold Saunders ym 1943, gan roi presenoldeb iddo mewn ardal Llafur diogel.[4]

Etholwyd West yn Aelod Seneddol (AS) dros Bont-y-pŵl mewn isetholiad ym mis Gorffennaf 1946. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol i James Chuter Ede, yr Ysgrifennydd Cartref, ym 1950, ond y flwyddyn olynol collodd Llafur yr etholiad cyffredinol. Roedd hefyd yn llywydd cangen De Cymru a Sir Fynwy o Gymdeithas y Swyddogion Prawf ac yn gadeirydd y Cyngor Cynghori ar Hedfan Sifil yng Nghymru. Yn ystod Argyfwng Suez roedd o blaid cefnogi safbwynt Israel yn erbyn yr Aifft a gynigiwyd gan lywodraeth Eden.[5] Yn y Tŷ gofynnodd gwestiynau’n gyson am gyflogaeth, lefelau diweithdra, yr ystadegau di-waith [6] a sut y gallai’r cymoedd elwa o feysydd Datblygu.[7] Gofynnodd am iawndal i lowyr, eu tenantiaethau [8] a, Cymorth Cenedlaethol i bensiynwyr.[9]

Bywyd Personol

[golygu | golygu cod]

Ar 12 Ionawr 1937 priododd Vera, merch J.Hopkins o Bont-y-pŵl. Fe symudon nhw i fyw i Brynderwen, Abersychan, Pont-y-pŵl, a chawsant fab a merch.[10]

Tŷ'r Arglwyddi

[golygu | golygu cod]

Ym 1958 West oedd un o'r tri enwebai Llafur cyntaf a ddewiswyd gan yr arweinydd Hugh Gaitskell i gael ei greu yn farwn am oes fel Barwn Granville-West, o Bont- y -pŵl yn Sir Fynwy trwy lythyrau patent. Fe olynwyd ef fel AS Pont-y-pŵl gan Leo Abse. Cyflwynodd ei araith gyntaf yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 26 Tachwedd 1958 gan son am yr angen am wella'r ddarpariaeth i ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion. Roedd yn Gymro ymroddedig iawn, yn angerddol am ei wlad a hawliau ei gydwladwyr. Roedd yn eiriolwr dros ehangu diwydiannol yng nghymoedd De Cymru, roedd yn gwrthwynebu dirywiad, gan hyrwyddo achos cynnal a chadw rheilffyrdd i Gomisiwn Trafnidiaeth Prydain .[11] Roedd yn gobeithio denu diwydiannau newydd yn ystod ymgyrch 'gwres gwyn dechnoleg' llywodraeth Harold Wilson. Roedd yn gwrthwynebu toriadau Dr Richard Beeching i'r gwasanaeth rheilffordd. Yn ystod y 1970au daeth prinder tai gweddus ynghyd â dirywiad diwydiannol yn ystod y cyfnod daeth yr Arglwydd Granville-West yn foderneiddiwr, yn cefnogi rhyddfreinio les ddeiliaid i ganiatáu i fwy o bobl dosbarth gweithiol anelu at fod yn berchen ar eu cartref eu hunain.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw'r Barwn Granville-West ym Mhont-y-pŵl yn 80 oed, a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Panteg, Pont-y-pŵl.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "WEST, DANIEL GRANVILLE, Barwn Granville-West o Bontypwl (1904-1984), gwleidydd Llafur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-10-16.
  2. D.W.Bebbington, 'Baptist Members of Parliament in the Twentieth Century', The Baptist Quarterly, (Pontypool, 1983) pp.257, 274.
  3. The Times, 'Lord Granville-West', obituary, 25 September 1984.
  4. "Granville-West and Morgan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-20. Cyrchwyd 2018-06-05.
  5. J.Edmunds, The Left and Israel: Party-Policy Change and Internal Democracy, (Springer, 2000) App.2.
  6. HC Deb 08 October 1946 vol 427 cc28-9W.
  7. HC Deb 28 February 1956 vol 549 cc1000-1.; HC Deb 05 December 1957 vol 579 cc699-756.
  8. HC Deb 05 February 1951 vol 483 cc1378-406.; HC Deb 04 April 1951 vol 486 cc218-81.
  9. HC Deb 17 May 1950 vol 475 cc1306-48.
  10. "Granville-West, Baron, (Daniel Granville West) (17 March 1904–23 Sept. 1984) | WHO'S WHO & WHO WAS WHO". www.ukwhoswho.com. doi:10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-164729. Cyrchwyd 2019-10-16.
  11. HL Hansard, 25 June 1959, col.247.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Arthur Jenkins
Aelod Seneddol

Pont-y-pŵl
19461958

Olynydd:
Leo Abse