Dafydd Jones o Gaeo
Gwedd
Dafydd Jones o Gaeo | |
---|---|
Ganwyd | 1711 ![]() Caeo ![]() |
Bu farw | 30 Awst 1777 ![]() Llanwrda ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Bardd ac emynydd Cymraeg oedd Dafydd Jones (1711 – 30 Awst 1777), sef Dafydd Jones o Gaeo.
Yn enedigol o Gwmgogerddan, Caeo, Sir Gaerfyrddin, roedd yn borthmon wrth ei alwedigaeth. Hoffai farddoni yn null y beirdd gwlad cyn cael troedigaeth yng nghapel Troed-rhiw-dalar ar ei ffordd adref, a dod yn Gristion argyhoedddig. Cynhwysodd William Williams Pantycelyn un o'i emynau yn ei gyfrol Aleluia (1747). Trosodd nifer o salmau'r emynydd Seisnig Isaac Watts i'r Gymraeg a chyhoeddodd dair cyfrol o'i emynau ei hun yn ogystal. Fe'i claddwyd yng Nghrug-y-bar.
Ymhlith yr emynau o'i waith a genir heddiw mae: Pererin wy'n y byd, Wele cawsom y Meseia ac O Arglwydd galw eto.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Gweithiau
[golygu | golygu cod]- Salmau Dafydd (1753). Trosiadau o waith Watts.
- Caniadau Dwyfol (1771). Eto.
- Hymnau a Chaniadau Ysprydol (1775). Eto.
- Difyrrwch i'r Pererinion (3 cyfrol, 1763, 1764, 1770)
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Gomer M. Roberts, Dafydd Jones o Gaeao (1948)
- Bobi Jones (gol.), Pedwar Emynydd (1970).