William Williams (Pantycelyn)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth William Williams Pantycelyn)
Jump to navigation Jump to search
William Williams
Portrait of Parch. William Williams, Pant-y-Celyn (4674719) (cropped).jpg
Ganwyd 11 Chwefror 1717 Edit this on Wikidata
Llanfair-ar-y-bryn Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Ionawr 1791 Edit this on Wikidata (73 oed)
Pantycelyn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Academi Llwynllwyd Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ieithydd, bardd, emynydd, pregethwr Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Howel Harris Edit this on Wikidata

Bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd William Williams (tua 11 Chwefror 171711 Ionawr 1791), neu (Williams) Pantycelyn. Roedd yn frodor o blwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Mae'n cael ei adnabod fel "Pantycelyn" ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger Pentre Tŷ-gwyn.

Ei fywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.

Ei waith[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Cyhoeddodd gyfres o gasgliadau o emynau, dwy gerdd hir uchelgeisiol, sef 'Golwg ar Deyrnas Crist' a 'Bywyd a Marwolaeth Theomemphus' ynghyd â nofer o lyfrau rhyddiaith, cyfieithiadau a marwnadau. Daethpwyd i'w adnabod wrth enw'r fferm a fu'n gartref iddo, 'Pantycelyn' ond fe'i hadnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Mae'r enw hwn yn seiliedig ar y cyfeiriad at Dafydd y salmydd yn y Beibl fel 'peraidd ganiedydd Israel'. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau Bread of Heaven, feed me now and evermore, ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn gan Derec Llwyd Morgan; 1991
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Llyfrau Pantycelyn[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Aleluia (1742-49)
  • Caniadau y rhai sydd ar y Môr o Wydr (1762)
  • Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau (1763-69)
  • Gloria in Excelsis (1771-72)
  • Golwg ar Deyrnas Crist (1756)
  • Bywyd a Marwolaeth Theomemphus (1764)
  • Pantheologia, neu hanes holl grefyddau'r byd (1762)
  • Crododil Afon yr Aifft (1767)
  • Hanes Bywyd a Marwolaeth Tri Wyr o Sodom a'r Aifft (1768)
  • Drws y Society Profiad (1777)
  • Cyfarwyddwr Priodas (1777)
  • Rhai Hymnau Newyddion (1782)
  • Gwaith Prydyddawl y diweddar Barchedig William Williams golygwyd gan John Williams, Pantycelyn (Caerfyrddin: Jonathan Harris, 1811)
  • Gweithiau Williams Pantycelyn dan olygiad N. Cynhafal Jones, Cyfrol 1 (Treffynnon: P. M. Evans, 1887)
  • Gweithiau Williams Pantycelyn dan olygiad N. Cynhafal Jones, Cyfrol 2 (Casnewydd: W. Jones, 1891)

Astudiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Kathryn Jenkins, Cân y Ffydd: Ysgrifau ar Emynyddiaeth (Cymdeithas Emynau Cymru, 2011)
  • Gomer Morgan Roberts. Y Per Ganiedydd [Pantycelyn] Cyfrol I (Trem ar ei fywyd) (1949) a Chyfrol II. (Arweiniad i'w waith) (1958). Gwasg Aberystwyth.
  • Glyn Tegai Hughes, 'Yr Hen Bant': Ysgrifau ar Williams Pantycelyn (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017)
  • H. A. Hodges, Flame in the Mountains: Williams Pantycelyn, Ann Griffiths and the Welsh Hymn, gol. E. Wyn James (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017)
  • R. Geraint Gruffydd, Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)
  • Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn y gyfrol Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn gan Derec Llwyd Morgan (gol.), (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991).

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]