Daeareg Ynysoedd Prydain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae daeareg Ynysoedd Prydain yn nodedig am ei amrywiaeth gyfoethog o greigiau a cheir enghreifftiau o bron yr holl oesoedd daearegol o'r Archaean ymlaen.

Daeareg Ynysoedd Prydain
Rectangle20x40.png Cwaternaidd (Llifwaddod) Geology Map UK cy.svg
  Paleogen / Neogen (hen enw: y Trydyddol)
  Cretasaidd
  Cretasaidd Isaf
  Jwrasig Hwyr/Canol
  Jwrasig Cynnar
  Jwrasig Hwyr
  Jwrasig Cynnar
  Permaidd Hwyr
  Permaidd Cynnar
  Carbonifferaidd Hwyr (Haenau Glo)
  Carbonifferaidd Canol
  Carbonifferaidd Cynnar (calch)
  Defonaidd
  Ordofigaidd / Silwraidd
  Cambriaidd
  Neoproterosöig
  Proterosöig (Cyn-Gambriaidd uwch / Hwyr)
  Lewisaidd (Cyn-Gambriaidd isel / Cynnar)
  gwenithfaen
  llosgfynyddoedd Paleogen

Mae ymchwil seismograffig yn dangos bod crwst y Ddaear rhwng 27 a 35 km (17 i 22 milltir) o drwch. Mae'r creigiau hynaf i'w cael yng ngogledd orllewin yr Alban ac maent yn fwy na hanner oed blaned. Credir bod y creigiau hyn i'w cael hefyd, yn isel o dan llawer o Brydain - dim ond y cilometrau cyntaf y mae tyllau turio wedi eu treiddio. Gwelir yr un creigiau yn Llydaw, ac felly, credir eu bod yn rhedeg yn isel dan yr wyneb o'r ardal i Lydaw. Mae'r creigiau ieuengaf i'w cael yn ne-ddwyrain Lloegr.

Yn ystod y Cyfnod Proterosöig, tua 520 miliwn o flynyddoedd yn ôl, nid oedd ynysoedd Prydain fel ag y maent heddiw. Yn hytrach, roedd yr Alban yn ran o'r cyfandir Laurentia a gweddill y tir yn ran o'r cyfandir Gondwana. Ganwyd y cyfandir Afalonia yn y Cyfnod Ordofigaidd pan oedd y cyfandiroedd yn dal i symud trwy weithgaredd tectonig, a ganwyd ynysoedd Prydain trwy wrthdrawiad rhwng cyfandiroedd. O ganlyniad i hyn cafwyd ffrwydriadau folcanig yng Nghymru. Mae'n bosib gweld olion y llosgfynyddoedd hyd at heddiw, er enghraifft ar Robell Fawr. Roedd lafa yn gorchuddio rhan eang o Gymru ac Ardal y Llynnoedd. Yr adeg hon hefyd y ffurfiwyd llechfaen Cymru.

Yn ystod y Cyfnod Silwraidd ffurfiwyd mynyddoedd yr Alban (Orogenesis). Yng Nghymru, roedd y ffrwydriadau folcanic yn parhau. Gwelir lafa a lludw folcanig o'r cyfnod hwn yn Sir Benfro.

Yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd roedd Prydain ger y cyhydedd a'r môr yn gorchuddio'r tir. Ffurfiwyd calchfaen a glo. Roedd holl gyfandiroedd y ddaear yn un cyfandir mawr, Pangaea, tua'r Cyfnod Carbonifferaidd ac roedd Prydain yng nghanol Panagea. Yn ystod hinsawdd sych y cyfnod ffurfiwyd y Dywodfaen Coch Newydd.

Yn ystod y Cyfnodau Permaidd a Thriasaidd symudodd y Deyrnas Unedig i'r gogledd a roedd y Môr Thetys yn gorchuddio'r tir. Yn ystod y Cyfnod Jwrasig holltwyd Pangea gan adael y Deyrnas Unedig ar Gyfandir Ewrasia.

Ni bu newid mawr iawn ym Mhrydain yn ystod Oes yr Iâ yn y Cyfnod Cwartaidd. Ffurfiwyd rhewlifau o amgylch y Môr Iwerddon a roedden nhw yn gorchuddio rhan fwyaf y tir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]