D.H. Jones
D.H. Jones | |
---|---|
Ffugenw | Dewi Arfon |
Ganwyd | David Hugh Jones 6 Gorffennaf 1833 Llanberis |
Bu farw | 25 Rhagfyr 1869 Llanberis |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, athro, bardd |
Ysgolfeistr, bardd a gweinidog o Gymru oedd D.H. Jones neu Dewi Arfon (6 Gorffennaf 1833 – 25 Rhagfyr 1869).[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd David Hugh Jones yn y Ty Du, Llanberis, Caern. Ef oedd y hynaf o bedwar o blant i Hugh ac Ellen Jones, ei frawd oedd awdur y dôn 'Llef, sef Griffith Hugh Jones. Ymadawodd yr ysgol pan oedd yn un ar ddeg, ac aeth i weithio i'r chwarel yn Llanberis gyda'i dad, ond yn ei amser hamdden ddysgodd ei hun i feistrioli rheolau barddoniaeth, cerddoriaeth, gramadeg Cymraeg a Saesneg a rhifyddeg. Aeth i Goleg Borough Road, Llundain, ble yno enillodd dystysgrif athro, yn yr ail ddosbarth, ymhen blwyddyn. Yno, am bedair mlynedd fe fu yn athro yn Ysgol Frytanaidd, Llanrwst. Codwyd i bregethu'n swyddogol ym Medi 1861, yng Nghapel Coch Llanberis. Bu farw ar fore Nadolig, 1869, fe'i gladdwyd ym Mynwent Nant Peris.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Gweithiau Dewi sef, cynhyrchion barddonol a rhyddieithol y diweddar Barch. David Jones (Dewi Arfon) (Caernarfon 1873), ed., Gutyn Arfon, 1873);
- Y Gwyddoniadur Cymreig (1889-96) (2 ed.), 10, 538;
- Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the present (1908);
- Anthropos, Camrau Llwyddiant: trem ar fywyd Dewi Arfon;
- W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon (1910);
- Carneddog, ‘Tri Chyfaill’, Cymru (O.M.E.), 14 (1898), 176-178;
- Y Drysorfa, March 1870, 114-115;
- G. H. Arfon (Gutyn Arfon), Manion (Conwy 1919);
- Y Gwyneddigion Cyfansoddiadau Eisteddfod Dinbych 1860; a'r beirniadaethau; yn nghyd a hanes ei gweithrediadau. Rhan 1 (Denbigh 1862)(1862), 11;
- J. Lloyd Williams, Atgofion tri chwarter canrif(1941), 30.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "JONES, DAVID HUGH ('Dewi Arfon'; 1833 - 1869), gweinidog (MC), ysgolfeistr a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-26.