Cytsain grech
Jump to navigation
Jump to search
Mewn seineg, cytsain a gynhyrchir gan ddirgryniad rhwng yr ynganydd a'r man ynganu yw cytsain grech. Mae cytseiniaid crychion yn wahanol i chytseiniaid cnithiedig lle y mae'r ynganydd gweithredol yn cael ei fwrw yn erbyn yr un goddefol. Mewn gwrthgyferbyniad, er mwyn ynganu cytsain grech, mae'r ynganydd yn aros yn ei unfan a llif yr anadl sy'n gwneud iddo ddirgrynu. Fel arfer mae'r dirgrynu hwn yn parhau am ddwy neu dri thro.
Ceir y cytseiniaid crychion canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
---|---|---|---|---|---|
Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
ʙ | cytsain grech ddwywefusol leisiol | ieithoedd Bamileke | [àʙɨ́] | lludw | |
ynganiad: [r̪] |
cytsain grech ddeintiol | iaith Ynysoedd Marshall | Ebadon | [
ynganiad: [ebɑ] ynganiad: [r̪] ynganiad: [on̪]] |
Ebadon |
ynganiad: [r] |
cytsain grech orfannol | Cymraeg | ras | [
ynganiad: [r] ynganiad: [aːs]] |
ras |
![]() |
cytsain grech dafodigol | Ffrangeg | Paris |
ynganiad: [[paˈ] ynganiad: [ʀ] ynganiad: [i]] |
Paris |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.