Cytsain gnithiedig
Mewn seineg, cytsain a gynhyrchir gan gyfangiad cyhyrol yw cytsain gnithiedig, lle y mae'r ynganydd gweithredol yn cael ei fwrw yn erbyn yr un goddefol. Mae cytseiniaid cnithiedig yn cyferbynnu â chytseiniaid stop gan nad oes cynnydd anadl y tu ôl i'r man ynganu ac felly dim rhyddhau'r sain ffrwydrol. Fel arall, mae cytseiniaid cnithiedig yn debyg i gytsain stop sydyn. Hefyd, maent yn wahanol i gytsain grech lle y mae'r ynganydd yn aros yn ei unfan a llif yr anadl sy'n gwneud iddo ddirgrynu. Gall y dirgrynu hwn barhau am sawl tro mewn cytsain grech, ond dim ond unwaith mae'n digwydd mewn cytsain gnithiedig.
Ceir y cytseiniaid cnithiedig canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
---|---|---|---|---|---|
Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
![]() |
cytsain gnithiedig wefus-ddeintiol | iaith Mono | vwa | ynganiad: [[]ynganiad: [ⱱ]ynganiad: [a]] | anfon |
ynganiad: [ɾ̪] | cytsain gnithiedig ddeintiol | Sbaeneg | pero | [ynganiad: [pe]ynganiad: [ɾ̪]ynganiad: [o]] | ond |
ynganiad: [ɺ] | cytsain gnithiedig ochrol orfannol | Japaneg | ラーメン(rāmen) | [ynganiad: [ɺ]ynganiad: [aːmeɴ]] | nwdls rāmen |
![]() |
cytsain gnithiedig olblyg | Hausa | shaara | ynganiad: [[ʃáː]ynganiad: [ɽ]ynganiad: [a]] | ysgubo |
ɺ̢ () | cytsain gnithiedig ochrol olblyg | Pashto | ړوند (ṛund) | ynganiad: [[]ynganiad: [ɺ̢]ynganiad: [und]] | dall |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.