Cynllun Alon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cynllun Alon heb unrhyw gonsesiynau pellach: Ardaloedd glas i'w hatodi i Israel; ardaloedd gwyrdd i'w dychwelyd i'r Iorddonen neu wasanaethu fel sylfaen ar gyfer gwladwriaeth Balesteinaidd

Roedd Cynllun Alon (Hebraeg: תוכנית אלון; Saesneg: Allon Plan) yn gysyniad ar gyfer dod â setlad wleidyddol i ddyfodol Llain Orllewinnol yr Iorddonen (y "West Bank"). Cyflwynwyd hi ym mis Tachwedd 1967 gan Ddirprwy Brif Weinidog Israel, Yigal Alon. Yn sgil natur annisgwyl y Rhyfel a'r fuddugoliaeth, Rhyfel Yom Kippur yn 1973 ac yna newid o Lywodraeth Glymblaid Asgell Chwith yr 'Aliniad' ("Alignment Government) i un Likud (asgell dde) oedd yn fwy cefnogol i Seionistiaeth Grefyddol fe addaswyd ar y Cynllun dros y blynyddoedd. Yn fras, roedd disgwyl y gall Sinai a'r Golan gael ei dychwelyd neu ffaeru mewn cytundeb heddwch gyda'r Aifft a Syria ond roedd gefnogaeth bron yn unfrydol i gadw, mewn rhyw ffordd neu gilydd, ac i wahanol raddau ar diroedd yn y Llain Orllewinnol, am resymau milwrol yn ogystal â chenedlaetholaidd.[1]

Cyd-destun[golygu | golygu cod y dudalen]

Lluniwyd y Cynllun yn dilyn llwyddiant annisgwyl a rhyfeddol Israel yn 'Rhyfel y Chwe' Diwrnod' pan gurodd Israel luoedd cyfansawdd 6 gwlad Arabaidd: Yr Aifft, Syria, Irac a Gwlad yr Iorddonen.

Yn dilyn y rhyfel roedd Israel ym meddiant triogaeth sawl gwaith yn fwy nag wythnos ynghynt gan gynnwys gweddill tiroedd Palesteina oedd wedi eu rhannu ac ym meddiant Gwlad yr Iorddonen yn dilyn y cadoediad ar ddaeth â Rhyfel Annibyniaeth Israel i ben yn 1948.

Y Cynllun[golygu | golygu cod y dudalen]

Yigal Alon, proffil, chwith gyda'i gatrawd wedi methiant cipio Safed, 1948
Yigal Alon, yn awyrfa Schiphol, 1975

Datblygwyd ar y cynllun ac fe'i cwblhawyd yn 1970. Y bwriad oedd ystyried diogelwch gwladwriaeth israel, meddiannu tir nad oedd yn cynnwys Arabiaid fel y byddai'n newid yn ormodol canran Iddewig y wladwriaeth ac yna gweithio ar y rhag-dybiaeth y byddai tir, yn enwedig i Syria a'r Aifft yn gallu cael ei ffeirio am heddwch mewn cyfundeb ryngwladol.

Tiroedd i Israel[golygu | golygu cod y dudalen]

Byddai Dyffryn Iorddonen, Dwyrain Jerwsalem a'r ardal gyfagos, anialwch Jiwdea o'r Môr Marw i Hebron, a'r ardal Gush Etzion yn cael cael eu hatodi'n rhan o Israel gyda phoblogaeth Israeli, Iddewig am hynny am resymau milwrol a chrefyddol. Roedd Jerwsalem i fod yn unedig â'r Dwyrain Arabaidd ac, oherwydd ei safleoedd crefyddol unigryw i Iddewiaeth, yn ffurfio cyfalaf "tragwyddol a di-sail Israel".

Tiroedd Arabaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd ardaloedd Arabaidd ar hyd criwb llain fynyddig mynyddoedd Samaria a Jiwdea Feiblaidd yn cynnwys poblogaeth dwys a threfi. Byddai'r ardal yma'n parhau i fod o dan reolaeth Arabaidd. Y farn gychwynnol oedd ffurfio meicro-wladwriaeth Arabaidd-Palestina, ond daeth llywodraeth Israel yn gyflym i gredu y dylai'r ardaloedd hyn, gan gynnwys coridor ger Jericho, fod yn sail i drafodaethau heddwch. Gwrthododd y Hussein I, Brenin yr Iorddonen, gynnig Israel ddiwedd mis Medi 1968 ar y sail na allai esbonio a chyfiawnhau'r cynllun gan nad oedd yn dderbyniol i'r "ymwybyddiaeth Arabaidd".

Sinai[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn buddugoliaeth Israel yn y Rhyfel, meddiannwyd y cyfan o benrhyn Sinai. Roedd Cynllun Allon yn cynnwys Israel yn encilio o fwyafrif y penrhyn a chyflwyno'r tir yn ôl i'r Aifft ond gan ymestyn ffin Israel ymhellach i'r gorllewin ac i lawr arfordir Culfor Acaba ar y Môr Coch.

Talaith Druze[golygu | golygu cod y dudalen]

Is-bwynt arall y cynllun oedd sefydlu gwladwriaeth glustogau Druze yn nhalaith Al-Quneitra ar y Golan Heights oedd yn rhan o Syria nes i Israel ei feddiannu yn y Rhyfel.[2] Erbyn heddiw, mae'r ardal hon wedi'i cymhathu gan Israel, er bod y boblogaeth Druze yn dal i drigo yno.

Ymateb y Brenin Hussein[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwireddwyd byth mo Gynllun Alon yn llawn.

Yn ôl yr awdur Israel Avi Shlaim, gwrthodwyd cynnig llawer mwy cymodlon gan Israel i'r Brenin Hussein. Mewn cyfweliadau gyda'r Brenin Hussein beth amser wedi chyflwyno'r Cynllun, hyd yn oed be byddai Israeli yn cynnig 98% o Lain y Gorllewin byddai wedi gwrthodwyd yr amodau cysylltiedig.[3][4]

"Fe gynigiwyd i mi [gan yr Israeliaid] ddychwelyd rhywbeth fel 90% ynghyd â thiriogaethau - 98% hyd yn oed, gan eithrio Jerwsalem, ond ni allaf ei dderbyn. Cyn belled ag yr wyf yn y cwestiwn, roeddwn am fod yn gyfrifol am bob modfedd neu doeddwn ddim yn gyfrifol am ddim." ("I was offered the return of something like 90 plus percent of the territories, 98 percent even, excluding Jerusalem, but I couldn't accept. As far as I am concerned, it was either every single inch that I was responsible for or nothing).[5]

Gwladychu Tiroedd Newydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu cynllun Alon yn sail i bolisi gwladychu llywodraethau Israel dan arweiniad y Llywodraeth Genedlaethol. Rhwng 1967 a 1977, codwyd 76 aneddiad (settlement) ar lawr gwlad gan ddilyn ddau baramedr Cynllun Alon: anghenraid diogelwch a diffyg problem demograffig. Mewn geiriau eraill, gweithredodd y Llywodraeth Alinio asgell chwith yn unol â'r egwyddor bod yr aneddiadau a sefydlwyd ym Mynyddoedd y Golan, Sinai yn y Bryniau Jiwdean, dyffryn yr Iorddonen a Baka. Adeiladwyd ffordd newydd gogledd i dde lawr Dyffryn Iorddonen a enwyd yn "Ffordd Alon" ar ôl Yigal Alon.

Cynllun Allon Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ers cyflwyno Cynllun Allon mae sawl cynllun wedi mynd a dod ar gyfer dod â'r anghydfod rhwng yr Arabiaid a'r Israeliaid i ben. Mae Cynllun Allon, er na wireddwyd hi fyth yn llawn, i'w gweld fel adlais yn sawl un o'r cynlluniau wedyn[6] ac yn sail ar gyfer sefyllfa bresenol gweinyddiad Israel a'r Awdurdod Palesteinaidd o'r tiroedd.[7]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]