Cymraeg Byw
Enghraifft o'r canlynol | Addysgeg |
---|
Ymdrech yn yr 1960au a'r 1970au cynnar at ddarparu canllawiau newydd ar gyfer dysgu Cymraeg oedd Cymraeg Byw. Fe'i hariannwyd gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC).[1] Y nod oedd creu canllaw a safon ar gyfer dysgu Cymraeg oedd yn fwy cyfoes, ac i'r raddau bod hynny'n bosib, yn dafodieithol di-duedd. Crewyd Cymraeg Byw fel rhan o'r twf mewn dysgu Cymraeg fel ail iaith a gychwynnodd yn yr 1970au a'r teimlad bod gwers-lyfrau blaenorol yn rhy lenyddol a bod angen gwersi mewn Cymraeg mwy llafar, bob-dydd, ar gyfer ddysgwyr.
Natur Cymraeg Byw
[golygu | golygu cod]Mewn erthygl yn 2011 dywed Elen Roberts y ceir peth dadlau a oedd Cymraeg Byw wedi'i fwriadu fel model ar gyfer addysgu ail iaith ac iaith gyntaf, ac a'i bwriadwyd fel model ar gyfer Cymraeg llafar yn ogystal ag ysgrifenedig. Fodd bynnag, ymddengys bod Cymraeg Byw yn rhan o ymdrech ehangach i gau'r bwlch rhwng y Gymraeg llafar a’r safon lenyddol. Teimlwyd bod y safon lenyddol yn hynafol ac yn geidwadol ac yn rhy bell oddi ar arferion llafar iddi allu gwasanaethu fel model ar gyfer Cymraeg ail iaith.
Honnodd awduron Cymraeg Byw eu bod yn targedu’r Gymraeg “bur”, yr hyn a elwid yn 'Cymraeg llyfr' a ddysgwyd. Roedd ergyd Cymraeg Byw, felly, yn ymwneud â chystrawen a morffoleg y Gymraeg a ddysgwyd.
Gwerslyfrau
[golygu | golygu cod]Gwelwyd amlygu agweddau dysgu Cymraeg Byw yn y gwerslyfr Teach Yourself Living Welsh. Roedd y gyfrol gyntaf, a elwid yn Teach Yourself Welsh, wedi ei chyhoeddi, cyn dyfodiad Cymreg Byw, ac yn adlewyrchu arddull yr iaith yn ei ffurf lenyddol amlycaf. Roedd yr ail, a gyhoeddwyd fel Teach Yourself Living Welsh ym 1977, yn dysgu 'Cymraeg Byw', ffurf lafar ar y Gymraeg gyda'r bwriad o roi rhywbeth y gallai'r dysgwr ei ddefnyddio mewn unrhyw gymuned Gymraeg ei hiaith i'r dysgwr. Dywedodd yr awdur, T. J. Rhys Jones, fod y gyfrol newydd yn manteisio ar y datblygiadau cyffrous ym myd dysgu iaith a ddigwyddodd ers ymddangosiad y llyfr gwreiddiol.[2]
Yn ôl Paul Birt, darlithydd mewn Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Ottawa, Canada roedd "T. J. Rhys Jones yn amlwg wedi tynnu ar flynyddoedd lawer o brofiad fel athro’r Gymraeg ac wedi llwyddo i grynhoi strwythurau hanfodol yr iaith a’i holl feysydd problematig o fewn cwmpas llawlyfr 19 uned [Teach Yourself Living Welsh]."[2]
Enghreifftiau o Gymraeg Byw
[golygu | golygu cod]Yr adran hiraf gan gryn dipyn a gafodd sylw gan Gymraeg Byw oedd ffurfiau berfol. Ceir hefyd argymhellion ar ffurfiau gramadegol eraill, megis y defnydd o ansoddeiriau (a ddylid defnyddio ffurfiau lluosog a benywaidd, er enghraiifft) ac arddodiaid (sy'n nodi sut y dylid cyfuno pob un). Fodd bynnag, roedd Cymraeg Byw hefyd yn argymell ynganiad set fechan iawn o forffemau, lle rhoddir blaenoriaeth i arferion lleol/rhanbarthol.[1]
Ceir enghreifftiau lle ceisiodd Cymraeg Byw bontio'r gwahaniaethau tafodieithol a'r dynfa rhwng Cymraeg 'clasurol' a Chymraeg 'y stryd'. Ymysg rhai o'r enghreifftiau ceir:[2]
- dydy e ddim - pont rhwng y "tydy o ddim" Gogleddol a'r "dyw e ddim" Deheuol
Gwaddol Cymraeg Byw
[golygu | golygu cod]Roedd Cymraeg Byw yn rhan o'r ymchwydd fawr mewn hyder a diddordeb yn yr iaith Gymraeg yn y cyfnod. Roedd yn cyd-fynd â sefydlu mudiadau fel Mudiad Ysgolion Meithrin y 1971 a Merched y Wawr yn 1967 a chwrs dysgu Cymraeg dwys a addaswyd o gwrs dysgu Hebraeg yn Israel, sef Wlpan, yn 1973. Gwelwyd hefyd ymestyn mewn darpariaeth Gymraeg yn y cyfryngau drwy sefydlu BBC Radio Cymru yn 1976.
Yn ôl Elen Roberts, mae'n anodd mesur effaith Cymraeg Byw. Honnodd Cennard Davies yn 1988 ei bod yn parhau i gael ei defnyddio wrth addysgu, er iddi gael ei haddasu ychydig, yn enwedig trwy ymgorffori nodweddion rhanbarthol, yn dibynnu ar leoliad bras y gwersi (gogledd neu dde Cymru). Ond nid yw’n glir erbyn yr 21g i ba raddau y mae Cymraeg Byw yn dal i gael ei defnyddio fel model wrth ddysgu Cymraeg, ail iaith neu iaith gyntaf, ar lafar neu’n ysgrifenedig, ac i ba raddau y mae’r ffurfiau a argymhellir wedi dod i’w gweld fel rhagor na model addysgol, ac un dadleuol ar hynny.
Roedd Cymraeg Byw yn ymgais gyntaf gan y sector addysg cyfrwng Cymraeg newydd i lunio model ar gyfer addysgu nad oedd yn cymryd y cyfrwng crefyddol fel ei awdurdod.[1]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- The use of Welsh: a contribution to sociolinguistics gan Ball, Martin J. (ed.), yn ngyfnodolyn Multilingual Matters, cyfrol 36, (1988) Ceir pennod gan Cennard Davies ar Gymraeg Byw
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Roberts, Elen (2011), Standardness and the Welsh language, Prifysgol Caerdydd: Standard Languages and Language Standards in a Changing Europe (T. Kristiansen & N. Coupland (ed.)) ar wefan 'Academia', https://www.academia.edu/6854637/Standardness_and_the_Welsh_language
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Birt, Paul (15 Mawrth 2000). "Adolygiadau Teach Yourself Welsh". Gwefan Cymdeithas Madog. Cyrchwyd 21 Awst 2024.