Cymdeithas Ddawns Werin Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cymdeithas Dawns Werin Cymru)
Jump to navigation Jump to search
'Diwrnod Dawns', Caerffili, 2009 - plant lleol yn dawnsio gwerin Cymreig

Mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru (weithiau Cymdeithas Dawns Werin Cymru) yn hyrwyddo dawnsio gwerin Cymreig, darparu cyrsiau hyfforddiant, trefnu gwyliau a chystadleuthau, cymell dawnsio cymdeithasol, cyfarwyddo a chynorthwyo eraill ar faterion yn ymwneud â dawnsio gwerin, cynhyrchu a chyhoeddi deunydd[1] a chyfarpar addysgu sy'n ymwneud â dawnsio gwerin, parhau i ymchwilio yn y maes hwn.[2]. Mae ganddynt stondin yn Nhŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn trefnu performiadau yn Nhŷ Gwerin[3] ac ar lwyfanau eraill ar y maes.

Newidiwyd yr enw i Gymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru ar un adeg ond, yna, newidiwyd yr enw'n ôl i Gymdeithas Ddawns Werin Cymru yn 2017 [4] ond gwelir weithiau Cymdeithas Dawns (heb y treiglad).

Hanes Sefydlu[golygu | golygu cod y dudalen]

Llechen i gydnabod cyfraniad Lois Blake, Llangwm

Amcan y Gymdeithas yn ôl ei chyfansoddiad yw: "Amcan y Gymdeithas yw astudio a gwneuthir yn hysbys yr hyn a wyddis eisoes am y ddawns werin Cymreig ; unoli y gwaith a wneir ynglyn a’r ddawns werin, a threfni ymchwil pellach."[5] Sefydlwyd y Gymdeithas yn swyddogol ym mis Medi 1949.[6] Roedd hyn ar gefn diddordeb yn y traddodiad gan bobl fel Hugh Mellor, yr Urdd ac eraill o'r 1920au ymlaen. Yn yr 1940au, daeth Lois Blake a Gwyn Williams yn flaenllaw yn atgyfodi dawnsio gwerin Cymdeig [7] cyn mynd ati i sefydlu'r Gymdeithas.

Roedd aelodau blaenllaw y Gymdeithas yn cynnwys nifer o arbenigwyr llen a thraddodiadau gwerin Cymru:

Llywyddes – Lois Blake
Cadeirydd – W. S. Gwynn Williams, Glas Hafod, Llangollen.
Trysoryd – W. E. Cleaver, Abernant, Bodfari, Nr. Denbigh.
Trefnydd – Lois Blake, Tafarn-y-Pric, Corwen.
Golygydd – lfan O. Williams, B.B.C., Bangor.
Ysgrifennydd – Miss E. Daniels Jones, Dinas, Greenfield Road, Ruthin.

Pwyllgor Gwaith: Cassie Davies, H,M.I.; Miss Gwennant Davies, Aberystwyth; Irene Edwards, Bettws-Y-Coed; Miss D. Freeman, Casnewydd; Mr. Redvers Jones, Llangefni, Miss S. Storey Jones, Yr Wyddgrug; Teifryn Michael, Aberystwyth; Iorwerth Peate, Caerdydd (sefydlydd Amgueddfa Werin Cymru); Marjorie Pierce, Llangollen; Gwenllian Roberts, Corwen; Nest Pierce Roberts, Llangadfan; Miss A. Rogers, H.M.I; Miss Gwen Taylor, Wrexham; Alderman Margaret Williams, Llanelwy.

O'r cychwyn aethpwyd ati i drefnu cyrsiau a gweithdai i hyrwyddo gwybodaeth am y dawnsiau. Aethpwyd ati i ennyn diddordeb yn y dawisio Gwerin Cymreig yn y gwahanol glybiau a Sefydliad y Merched, a hefyd am y gwaith ymchwil gwerthfawr a gyfiawnodd ers blynyddoedd ynglyn a gwreiddiau ein dawnsiau Cenedlaethol. Trefnodd Lois Blake (oedd yn Saesneg o Lerpwl bu'n weithgar gyda'r English Folk Dance Society a symudodd i Langwm a synnu cyn-lleied o ddawnsio oedd yno) Ysgolion Undydd i Athrawon ac Arweinwyr Ieuenctid yn y Rhyl, Llanfair Caereinion, Rhuthun, Dyserth, Bae Colwyn a'r Wyddgrug, a hefyd cyrsiau preswyl o dan nawdd yr Urdd yn Aberystwyth. Gwnaethpwyd gwaith tebyg gan Doris Freeman yn y De, lle cymerodd gyrsiau yng Nghaerfyrddin, Caerdydd, Brynmawr, Llanelli, Pontypool, a Birmingham. Bu galw mawr am wasanaeth Doris Freeman a'i thim o Gasnewydd i arddangos yr hen ddawnsiau Y tim hwn a ddewiswyd i gynrychioli Cymru mewn gŵyl werin yn Lingiad yn Sweden yn 1949.

Rhoddwyd perfformiad dawns werin yn Eisteddfod Caerffili a rhoddwyd Gwobr Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn Eisteddfod Llanrwst 1950 am y tro cyntaf.[8]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cyhoeddi a hyrwyddo gwybodaeth am gyhoeddiadau sy'n esbonio dawnsfeydd a'r gerddoriaeth yn rhan o gennad y Gymdeithas. Erbyn 1953 roedd y Gymdeithas wedi trefnu sawl gweithdy ar draws Cymru yn ogystal â rhannu dawnseydd a thrafod y wisg.[9] Mae'r Gymdeithas yn cyhoeddu deunydd addysgol, CD, llyfrau a recordiau yn esbonio ac ymwneud â'r traddodiad dawnsio gwerin Cymreig.[10]

Y Gymdeithas Gyfredol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bellach mae oddeutu ugain tîm dawnsio gwerin yn rhan o'r Gymdeithas.[11]

Mae'r Gymdeithas hefyd yn ymwneud â chefnogi a chydlynnu digwyddiadau megis y 'Tŷ Gwerin' [12] yn yr Eisteddfod Genedlaethol; Gŵyl Ifan yng Nghaerdydd, gŵyl 'Cwlwm Celtaidd'[13] a gweithdai hyfforddiant.[14]

Gwobrwyir Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[15]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]