Neidio i'r cynnwys

Cymdeithas Cyfamod y Cymry Rhydd

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Cyfamod y Cymry Rhydd

Mudiad cenedlaetholgar Cymreig oedd Cymdeithas Cyfamod y Cymry Rhydd (Saesneg: The Society of the Covenant of the Free Welsh), neu'r Cyfamodwyr, a sefydlwyd yn 1987 oherwydd anfodlonrwydd ar yr hyn a welid fel diffyg ymateb Plaid Cymru i broblem y mewnlifiad i Gymru a'i diffyg ymrwymiad tuag at annibyniaeth i'r wlad.

Un o sefydlwyr gwreiddiol y mudiad oedd Owain Williams, sy'n adnabyddus am ei ran yn y weithred o fomio safle gwaith y contractwyr yn Nhryweryn gan Mudiad Amddiffyn Cymru yn 1963 i geisio atal boddi Capel Celyn. Tra nad oedd yn barod i gymeradwyo trais fel y cyfryw, dywedodd "fod amser eithriadol yn gofyn am ymateb eithriadol". Cefnogwr amlycaf y Cyfamodwyr oedd y bardd cenedlaetholgar R. S. Thomas, a fu'n llawer mwy parod i gefnogi gweithgareddau Meibion Glyndŵr yn gyhoeddus.

Cefnogai'r Cyfamodwyr yr ymgyrch llosgi tai haf ac roeddent yn cynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd dadleuol, megys crysau-T a mygiau, yn awgrymu hynny. Un arall o'r pethau a enillodd gyhoeddusrwydd iddynt oedd cyhoeddi pasbort Cymreig; defnyddiodd rhai o'r aelodau y pasbort i deithio i'r Cyfandir.[1] Roeddent hefyd yn galw ar y Cymry Cymraeg i fagu mwy o blant er mwyn gwrthweithio effaith y mewnlifiad ar gymunedau Cymraeg.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. agencebretagnepresse
  2. "Barn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-24. Cyrchwyd 2008-05-24.