Cylchoedd cerrig Nant Tarw

Oddi ar Wicipedia
Cylchoedd cerrig Nant Tarw
Nant Tarw
Cylchoedd cerrig Nant Tarw

Heneb gynhanesyddol yw Cylchoedd cerrig Nant Tarw, a leolir tua dwy km i'r de o Fynydd Myddfai yn ardal Brycheiniog, Powys. Ceir dau gylch cerrig a charnedd yno sydd i'w dyddio i Oes yr Efydd (ail fileniwm CC). Cyfeirnod AO (map 160): SN819558[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Nant Tarw: rhan o un o'r cylchoedd cerrig.

Mae'r heneb yn cael ei disgrifio fel 'safle defodol'. Gorwedd ar safle gweddol wastad a chorsiog ar ymyl deheuol cwm bychan ffrwd Nant Tarw. O'r ddau gylch cerrig, yr un dwyreiniol yw'r mwyaf gan fesur 21 metr ar draws. Mae'n cynnwys tua 15 carreg isel. Mae'r cylch gorllewinol yn mesur 19.5 metr ar draws ac yn cynnwys tua 15 carreg hefyd, gyda'r talaf yn 0.7 metr o uchder. Ger y cylch hwnnw ceir carreg fawr - naturiol efallai - gyda dwy garreg arall gerllaw sy'n ffurfio rhes sy'n pwyntio i'r cylch dwyreiniol. Ger y safle ceir maen hir 2.7 metr. Mae'r garnedd mewn cyflwr adfeiliedig iawn ond mae'n amlwg ei bod yn rhan o'r safle.

Mynediad[golygu | golygu cod]

Gellir cyrraedd y safle trwy ddilyn y ffordd fynydd o bentref Trecastell, ar yr A40 rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri, a dringo am tua 5 milltir i gyffiniau Nant Garw ac wedyn cerdded i'r safle.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Helen Burnham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tudalennau 44-45.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]