Cumulus

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cwmwl cwmwlws)
Neidio i: llywio, chwilio
Cymylau 'meirch y ddrycin'
Fideo cyflym o Cumulus humilis yn ffurfio, yn carlamu ac yn diflannu, ar ddiwrnod poeth.

Cwmwl bychan gwyn gwlanog yw cwmwlws (neu'n wyddonol: cwmulus; ar lafar - Seintiau tywydd braf, meirch y ddrycin ayb) a welir ar gefndir o awyr las ac a elwir, yn addas iawn, yn 'gymylau tywydd braf'. Anaml maent yn ffurfio'n uwch na 2,000 m (6,600 tr) o'r Ddaear, oni bai eu bod yn y ffurf unionsyth cumulus congestus. O'r gair Lladin cwmwlws y daw'r gair Cymraeg 'cwmwl'; ystyr cumulo ydy "tomen" yn yr iaith Ladin.

Mae'n bosib i gymylau cwmwlws ymddangos ar eu pennau eu hunain, mewn llinellau neu mewn clystyrau. Mae cymylau cwmwlws yn aml yn rhagflaenyddion i fathau eraill o gymylau, fel cumulonimbus, pan mae wedi ei ddylanwadu gan ffactorau tywydd fel ansefydlogrwydd, lleithder a graddiant. Mae cymylau cwmwlws yn rhan o gategori ehangach o gymylau ffurf cwmwlws, sy'n cynnwys cymylau stratocwmwlws, cymylau cwmwlonimbws, a chymylau siro-cwmwlws.[1]

Enwau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwau eraill arnynt yw 'cymylau defaid' am eu bod yn weddol grwn a gwasgaredig – yn debyg i braidd yn pori'r llechweddau. Oherwydd eu diniweidrwydd, mae'n debyg, cawsant eu cyffelybu yng Ngwynedd â'r Seintiau: 'Seintiau tywydd braf' dros Ynys Môn (o Waunfawr) a 'Seintiau Aberdyfi' dros Fae Ceredigion (o Gricieth). Ond hawdd iawn y gall y diniwed newid ei natur!

Pan gyfyd gwyntoedd stormus o'r de orllewin â'r cymylau bychain yn carlamu ar draws yr awyr o'r cyfeiriad hwnnw fe'u gelwir yn 'feirch y ddrycin' a 'merlod Hafnant' yn ardal Ysbyty Ifan, sy'n gyfeiriad at Fynydd Hafnant ym mhen ucha'r cwm. Os ydynt yn cynyddu ac ymledu gallant fod yn un o'r arwyddion cyntaf bod glaw ar ei ffordd. Enw arnynt yn ardal y Bala pan maent yn dechrau ymddangos yw 'cymylau pennau cŵn'. Os parhânt i gynyddu a phentyrru deuant i edrych fel blodfresych mawr bolddu ac ymhen ychydig oriau yn gymylau terfysg. Ceir dywediad am hynny o ogledd Ceredigion: 'Pen ci bore o wanwyn, uchel gynffon buwch cyn nos.' Yr 'uchel gynffon buwch' yn cyfeirio at y gwartheg yn 'stodi, neu'n rhedeg â'u cynffonnau'n syth i'r awyr, fel y gwnânt ar dywydd trymaidd cyn storm o felt a thrannau yn yr haf.

Pan fydd yr awyr y tu cefn neu uwchben y Cumulus bychain yn dechrau llenwi â haenau o gymylau llwydion, bydd cysgod y cymylau uchel yn troi'r rhai isel yn dywyll iawn. Disgrifir hynny yn yr enwau: 'cŵn duon Dinbych' (Penmachno) am gymylau bach duon ddeuant cyn storm, tra ym Môn ceir y disgrifiad: 'defaid duon dan do' am gymylau bychain yn symud o dan nenfwd llwyd yr haenau uwch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Llên Gwerin (Cymdeithas Edward LLwyd).