Crys Polca Dot

Oddi ar Wicipedia
Crys Polca Dot
Mathcrys arbennig mewn rasys seiclo Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn, coch Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Fabian Wegmann yn derbyn y crys dot polca

Caiff y Crys Polca Dot[1] neu'r Crys Smotiau Crynion[1] (Ffrangeg: maillot à pois rouges) ei wobrwyo i'r dringwr gorau yn ras seiclo y Tour de France. Gelwir enillydd y crys yn "Brenin y Mynyddoedd" a gwisgai grys gwyn gyda smotiau coch.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn 1933, dychmygwyd y syniad o gystadleuaeth brenin y mynyddoedd gyntaf. Yr enillydd oedd Vicente Trueba, a gyrhaeddodd copaon y mynyddoedd gyntaf. Er hyn, roedd Trueba yn wael iawn am ddisgyn y mynyddoedd, felly nid oedd fyth yn ennill dim o gyrraedd y copa gyntaf. Penderfynodd Cyfarwyddwr y Tour de France, Henri Desgrange, y dylai'r seiclwyr a gyrhaeddodd y copaon gyntaf dderbyn bonws. O 1934 ymlaen, rhoddwyd yr amser rhwng y seiclwr cyntaf i'r copa a'r ail, fel bonws amser ar gyfer y seiclwr cyntaf. Cafwyd wared ar y bonws yma yn ddiweddarach, ond delwyd i adnabod brenin y mynyddoedd.[2] Er i'r gystadleuaeth gael ei chyflwyno yn 1933, ni chyflwynwyd y grys tan 1975. Mae "Brenin y Mynyddoedd" yn gwisgo crys gwyn gyda smotiau coch (maillot à pois rouges), a gyfeirir ati fel y "crys dot polca" a ysbrydolwyd gan grys a welodd y cyn-drefnwr, Félix Lévitan, tra yn nhrac Vélodrome d'Hiver, Paris yn ei ieuenctid. Dewiswyd y lliwiau gan y cefnogwr ariannol, Chocolat Poulain (Cymraeg: Siocled Poulain), i gyd-fynd â un o'u cynnyrch. Ers 1993 cefnogir y grys gan archfarchnad Champion. Mae lliwiau'r grys hefyd wedi cael eu ymdopi gan rasys cam eraill seiclo megis y Tour of Britain.

Y Sefyllfa Bresennol[golygu | golygu cod]

Penderfynir y gystadleuaeth gan bwyntiau a wobrwyir i'r beiciwr cyntaf i gyrraedd copa elltydd a mynyddoedd penodedig, gyda'r nifer mwyaf o bwyntiau ar gael ar y bryniau caletaf eu dringo. Caiff y bryniau eu rhannu i sawl categori, o 1 (y caletaf) i 4 (y lleiaf caled), mesurir pa mor anodd ydynt ar sail eu serthrwydd a'u hyd. Mae pumed categori, sef Hors catégorie (di-gategori), ar gyfer y bryniau yn galetach fyth na rhai categori 1. Newidiwyd y system sgorio yn 2004, a cafodd y cyntaf i gopa dringiad categori 4 3 pwynt, tra bod y cyntaf i groesi copa Hors catégorie yn derbyn 20 o bwyntiau. Gwobrwyir pwyntiau i'r 3 beiciwr cyntaf i gopa bryn categori 4 tra bod y 10 cyntaf yn derbyn pwyntiau ar fryn Hors catégorie. Gwobrwywyd pwyntiau dwbl hefyd yn 2004, os oedd y cymal yn gorffen ar ben bryn, ac os oedd y bryn yng nghategori 2 neu uwch.

Dosbarthu'r Pwyntiau[golygu | golygu cod]

 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Dringiadau yn y "Hors Catégorie" (HC): 20, 18, 16, 14, 12, 10, 8, 7, 6 ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 10 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 1: Rhoddir 15, 13, 11, 9, 8, 7, 6 ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 8 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 2: Rhoddir 10, 9, 8, 7, 6, ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 6 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 3: Rhoddir 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 4 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 4: Rhoddir 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 3 reidiwr cyntaf i'r copa.

NODYN: Ar gyfer dringiad olaf cam, bydd y pwyntiau'n cael eu dwblu (ar gyfer dringiadau HC, Cat 1 a Cat 2 yn unig).

Os bydd cwlwm rhwng nifer o bwyntiau'r safle gyntaf, bydd y nifer o fuddugoliaethau ar ddringiadau HC yn perderfynnu enillyd y Grys Dot Polca, ac yna nifer buddugoliaethau drigidau Categori 1 os oes dal cwlwm ac yna Categori 2, ayb.

Brenin y Mynyddoedd[golygu | golygu cod]

Enillwyr sawl gwaith[golygu | golygu cod]

Safle Enw Gwlad Sawl gwaith Blynyddoedd
1 Richard Virenque Baner Ffrainc 7 1994, 1995, 1996, 1997, 1999, 2003, 2004
2 Federico Bahamontes Baner Sbaen 6 1954, 1958, 1959, 1962, 1963, 1964
  Lucien Van Impe Baner Gwlad Belg 6 1971, 1972, 1975, 1977, 1981, 1983
4 Julio Jiménez Baner Sbaen 3 1965, 1966, 1967
5 Felicien Vervaecke Baner Gwlad Belg 2 1935, 1937
  Gino Bartali Baner Yr Eidal 2 1938, 1948
  Fausto Coppi Baner Yr Eidal 2 1949, 1952
  Charly Gaul Baner Lwcsembwrg 2 1955, 1956
  Imerio Massignan Baner Yr Eidal 2 1960, 1961
  Eddy Merckx Baner Gwlad Belg 2 1969, 1970
  Luis Herrera Baner Colombia 2 1985, 1987
  Claudio Chiappucci Baner Yr Eidal 2 1991, 1992
  Laurent Jalabert Baner Ffrainc 2 2001, 2002
  Michael Rasmussen Baner Denmarc 2 2005, 2006

Yr Holl Enillwyr[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Enw Gwlad
1933 Vicente Trueba Baner Sbaen
1934 René Vietto Baner Ffrainc
1935 Félicien Vervaecke Baner Gwlad Belg
1936 Julián Berrendero Baner Sbaen
1937 Félicien Vervaecke Baner Gwlad Belg
1938 Gino Bartali Baner Yr Eidal
1939 Sylvère Maes Baner Gwlad Belg
1947 Pierre Brambilla Baner Yr Eidal
1948 Gino Bartali Baner Yr Eidal
1949 Fausto Coppi Baner Yr Eidal
1950 Louison Bobet Baner Ffrainc
1951 Raphaël Géminiani Baner Ffrainc
1952 Fausto Coppi Baner Yr Eidal
1953 Jesús Loroño Baner Sbaen
1954 Federico Bahamontes Baner Sbaen
1955 Charly Gaul Baner Lwcsembwrg
1956 Charly Gaul Baner Lwcsembwrg
1957 Gastone Nencini Baner Yr Eidal
1958 Federico Bahamontes Baner Sbaen
1959 Federico Bahamontes Baner Sbaen
1960 Imerio Massignan Baner Yr Eidal
1961 Imerio Massignan Baner Yr Eidal
1962 Federico Bahamontes Baner Sbaen
1963 Federico Bahamontes Baner Sbaen
1964 Federico Bahamontes Baner Sbaen
1965 Julio Jiménez Baner Sbaen
1966 Julio Jiménez Baner Sbaen
1967 Julio Jiménez Baner Sbaen
1968 Aurelio González Baner Sbaen
1969 Eddy Merckx Baner Gwlad Belg
1970 Eddy Merckx Baner Gwlad Belg
1971 Lucien Van Impe Baner Gwlad Belg
1972 Lucien Van Impe Baner Gwlad Belg
1973 Pedro Torres Baner Sbaen
1974 Domingo Perurena Baner Sbaen
1975 Lucien Van Impe Baner Gwlad Belg
1976 Giancarlo Bellini Baner Yr Eidal
1977 Lucien Van Impe Baner Gwlad Belg
1978 Mariano Martinez Baner Ffrainc
1979 Giovanni Battaglin Baner Yr Eidal
1980 Raymond Martin Baner Ffrainc
1981 Lucien Van Impe Baner Gwlad Belg
1982 Bernard Vallett Baner Ffrainc
1983 Lucien Van Impe Baner Gwlad Belg
1984 Robert Millar Baner Yr Alban
1985 Luis Herrera Baner Colombia
1986 Bernard Hinault Baner Ffrainc
1987 Luis Herrera Baner Colombia
1988 Steven Rooks Baner Yr Iseldiroedd
1989 Gert-Jan Theunisse Baner Yr Iseldiroedd
1990 Thierry Claveyrolat Baner Ffrainc
1991 Claudio Chiappucci Baner Yr Eidal
1992 Claudio Chiappucci Baner Yr Eidal
1993 Tony Rominger Baner Y Swistir
1994 Richard Virenque Baner Ffrainc
1995 Richard Virenque Baner Ffrainc
1996 Richard Virenque Baner Ffrainc
1997 Richard Virenque Baner Ffrainc
1998 Christophe Rinero Baner Ffrainc
1999 Richard Virenque Baner Ffrainc
2000 Santiago Botero Baner Colombia
2001 Laurent Jalabert Baner Ffrainc
2002 Laurent Jalabert Baner Ffrainc
2003 Richard Virenque Baner Ffrainc
2004 Richard Virenque Baner Ffrainc
2005 Michael Rasmussen Baner Denmarc
2006 Michael Rasmussen Baner Denmarc
2007 Mauricio Soler Baner Colombia

Enillwyr yn ôl Cenediglrwydd[golygu | golygu cod]

Safle Gwlad Enwau'r Enilwyr Amlaf Yr Enillydd Diweddaraf Nifer o Ennillion
1 Baner Ffrainc Richard Virenque (7) Richard Virenque 2004 18
2 Baner Sbaen Federico Bahamontes (6) Domingo Periwreña 1974 15
3 Baner Yr Eidal Gino Bartali, Fausto Coppi,
Imerio Massignan a Claudio Chiappucci (2)
Claudio Chiappucci 1992 12
4 Baner Gwlad Belg Lucien Van Impe (6) Lucien Van Impe 1983 11
5 Baner Colombia Luis Herrera (2) Mauricio Soler 2007 4
6 Baner Denmarc Michael Rasmussen (2) Michael Rasmussen 2006 2
  Baner Lwcsembwrg Charly Gaul (2) Charly Gaul 1956 2
  Baner Yr Iseldiroedd Steven Rooks a Gert-Jan Theunisse Gert-Jan Theunisse 1989 2
9 Baner Y Swistir Tony Rominger Tony Rominger 1993 1
  Baner Yr Alban Robert Millar Robert Millar 1984 1

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "polka". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 2020-11-26.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-07-15. Cyrchwyd 2007-09-18.