Crychddail sbaen
Crychddail sbaen Fossombronia caespitiformis | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Fossombroniales |
Teulu: | Fossombroniaceae |
Genws: | Fossombronia |
Rhywogaeth: | F. caespitiformis |
Enw deuenwol | |
Fossombronia caespitiformis |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Crychddail sbaen (enw gwyddonol: Fossombronia caespitiformis; enw Saesneg: Spanish frillwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Fossombroniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru: yng ngorllewin Sir Benfro a dwyrain Sir Fynwy. Fe'i ceir hefyd yn Henffordd, cernyw a llond llaw o lefydd eraill yn Lloegr a gwledydd eraill, ond nid yn yr Alban nac Iwerddon.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
fel y rhan fwyaf o rywogaethau yn y genws Fossombronia, mae gan Crychddail sbaen (F. caespitiformis) goesynnau llai na 15 mm o hyd, ac mae'r dail yn wyrdd-golau sy'n cyrlio; mae'nt yn edrych yn debyg i letys bychain. Mae'r rhisoidau yn bresennol ar hyd hyd y coesynnau, a rheiny o liw marŵn. Mae'n rhywogaeth fonoicaidd, gydag organau gwrywaidd a benyw gyda'i gilydd ar yr un coesyn neu blanhigyn.[1]
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg/12px-Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/c4/Llen-Natur-1-transparent.png/45px-Llen-Natur-1-transparent.png)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ maltawildplants.com; adalwyd 7 Mehefin 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.