Cribarth
Gwedd
![]() | |
Math | copa, bryn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 428 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.814°N 3.701°W ![]() |
Cod OS | SN8313214367 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 61 metr ![]() |
Rhiant gopa | Twr y Fan Foel ![]() |
Cadwyn fynydd | Bannau Brycheiniog ![]() |
![]() | |
Mynydd yn ne-orllewin Brycheiniog, Powys, yw Cribarth. Fe'i lleolir ger pentref Abercraf yng Nghwm Tawe Uchaf ar gwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhan ddeheuol mynyddoedd y Fforest Fawr.
Mae siâp y mynydd pan y'i gwelir o gyfeiriad Abercraf yn awgrymu siâp dyn yn gorwedd i lawr ar ei gefn ac felly mae'r bobl leol yn ei alw 'Y Cawr Cwsg'. Cynrychiola copa Cribarth ben y Cawr Cwsg gyda gweddill ei gorff ar i waered i lawr y grib tua'r cwm. Y lle gorau i wylio'r olygfa ydy Caerlan, filltir i lawr y cwm tuag at Ystradgynlais.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Sefydliad y Cawr Cwsg Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback.