Crec yr Eithin
Gwedd
| Crec yr Eithin | |
|---|---|
| Ceiliog | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Muscicapidae |
| Genws: | Saxicola |
| Rhywogaeth: | S. rubetra |
| Enw deuenwol | |
| Saxicola rubetra (Linnaeus, 1766) | |
Mae Crec yr Eithin (Saxicola rubetra ) yn aelod o'r genws Saxicola sy'n nythu trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia. Mae'n aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica.
Mae'n nythu ar dir agored, yn aml ar wahanol fathau o dir diffaith. Gellir adnabod yr aderyn yma yn hawdd, yn enwedig y ceilog gyda'i ben du a llinell wen amlwg iawn uwchben y llygad, cefn brown a chynffon wen gyda du ar ei blaen a daranau gwyn ar yr adenydd. Mae'r iâr yn fwy brown, a heb y darnau gwyn ar yr adenydd. Mae tua'r un faint a Robin Goch, 13–14 cm o hyd ac yn pwyso 15-20 gram.
Mae Crec yr Eithin yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru ond mae'r niferoedd wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. Ar dir "ffridd", rhwng y tir isel a'r mynydd, y mae fwyaf cyffredin.