Craig Roberts
Craig Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ionawr 1991 Maesycwmer |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, sgriptiwr, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor teledu |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Actor o Gymru yw Craig Roberts (ganed 25 Ionawr 1991). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan 'Oliver Tate' yn y ddrama gomedi Submarine, a 'Rio' yng nghyfres deledu plant The Story of Tracy Beaker.
Ganed Roberts yn Maesycwmer, Caerffili.
Ymddangosodd fel y ffanatic sugnwyr gwaed, Robin Branagh, yn nwy dymor o'r gyfres Young Dracula. Gweithiodd gyda'r Touring Theatre Company yn 2008, gan chwarae rhan 'Ryan' mewn taith ledled Prydain Fawr o 'Full Time'. Mae hefyd wedi ymddangos yn Care, a Casualty. Chwaraeodd ran 'Drax', ym mhantomeim 'Snow White' yn Worthing ym mis Ionawr 2009. Chwaraeodd ran 'Adam' yng nghyfres deledu BBC Three Being Human, a'r gyfres gysylltiedig Becoming Human.[1]
Serenodd Roberts yn ffilm 2010 Submarine[2] sydd hefyd yn serennu Paddy Considine a Yasmin Paige.[3][4] Cafodd Roberts ei enwi'n Berfformiwr Prydeinig y Flwyddyn yng Ngwobrau London Film Critics’ Circle ym mis Ionawr 2012.[5] Ef hefyd oedd y llais ar hysbyseb ffôn symudol HTC One yn 2012, ble mae ffotograffydd yn neidio allan o awyren ar gyfer saethiad ffasiwn.
Ffilmograffi
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2000 | Care | Craig, Pauline's Child | Ffilm deledu |
2003 | Little Pudding | Ffilm deledu | |
2004 | The Story of Tracy Beaker | Rio | Cyfres deledu (2 gyfres 2004-2006) |
2005 | Kiddo | Jay | Ffilm deledu |
Casualty | Darren Smith/Jordan Philpot | Cyfres deledu (2 bennod: 2005-2008) | |
2006 | Scratching | Mike | Ffilm fer |
Young Dracula | Robin Branagh | Cyfres deledu, tymor 1 a 2 (27 pennod: 2006-2008) | |
2010 | Submarine | Oliver Tate | |
2011 | Being Human | Adam | Cyfres deledu (2 bennod: "Adam's Family", "Hold the Front Page") |
Becoming Human | Adam | Cyfres deledu | |
Jane Eyre | John Reed | ||
2012 | Red Lights | Ben | |
The First Time | Simon Daldry | ||
Comes a Bright Day | Sam Smith | ôl-gynhyrchu |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.bbc.co.uk/programmes/b00y5m86
- ↑ Henry Barnes (15 Mawrth 2011). 'I love deadpan': Richard Ayoade and Craig Roberts on Submarine | Film | guardian.co.uk. Guardian.
- ↑ James White (6 Tachwedd 2009). Paddy Considine starring in Submarine. TotalFilm.com. Adalwyd ar 15 Mawrth 2012.
- ↑ Submarine stars Craig Roberts and Yasmin Paige: Q&A. Film4. Adalwyd ar 15 Mawrth 2012.
- ↑ Simon Gaskell (26 Ionawr 2012). Rhymney Valley actor Craig Roberts picks up gong at London Film Critics’ Circle Awards for Submarine. WalesOnline.co.uk. Adalwyd ar 7 Mehefin 2012.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Craig Roberts ar wefan Internet Movie Database