Craig Cwm Silyn
| Math | mynydd, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 734 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0293°N 4.20007°W |
| Cod OS | SH5255950267 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 398 metr |
| Rhiant gopa | Moel Hebog |
| Cadwyn fynydd | Eryri |
![]() | |
Mynydd yng Ngwynedd sy'n rhan o Grib Nantlle yw Craig Cwm Silyn. Saif i'r de-ddwyrain o bentref Talysarn yn Nyffryn Nantlle, gyda Llynnau Cwm Silyn islaw'r clogwyni ar ei ochr ogleddol. Ef yw copa uchaf Crib Nantlle; gyda Bwlch Dros-bern yn ei wahanu oddi wrth gopa is Mynydd Tal-y-mignedd i'r gogledd-ddwyrain. I'r de-orllewin mae copa Garnedd Goch.
Mae'r clogwyni ar yr ochr ogleddol, yn cynnwys Craig yr Ogof a Clogwyn y Cysgod, yn gyrchfan boblogaidd i ddringwyr. I'r de o'r copa, mae Cwm Braich-y-ddinas yn arwain i lawi i Gwm Pennant.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 734 metr (2408 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
