Mynydd Tal-y-mignedd
Gwedd
| Math | mynydd, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Crib Nantlle, Moel Hebog |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 653 metr |
| Cyfesurynnau | 53.039824°N 4.186334°W |
| Cod OS | SH5353451402 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 51 metr |
| Rhiant gopa | Trum y Ddysgl |
| Cadwyn fynydd | Moel Hebog |
![]() | |
Mynydd yng Ngwynedd sy'n rhan o Grib Nantlle yw Mynydd Tal-y-mignedd, weithiau Mynydd Tal y Mignedd. Mae Bwlch Dros-bern yn ei wahanu oddi wrth gopa Craig Cwm Silyn i'r de-orllewin. I'r gogledd-ddwyrain ar hyd y grib mae Trum y Ddysgl.
Caiff y mynydd ei enw o ffermdai Tal-y-mignedd a Tal-y-mignedd Uchaf, ar ei lechweddau gogleddol yn Nyffryn Nantlle. I'r de o'r copa, mae Cwm Dwyfor yn arwain i lawr i Gwm Pennant; yma mae afon Dwyfor yn tarddu. Ceir tŵr sylweddol ar y copa, a godwyd gan chwarelwyr i ddathlu jiwbili y Frenhines Victoria.
