Llynnau Cwm Silyn

Oddi ar Wicipedia
Llynnau Cwm Silyn
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.031188°N 4.216652°W Edit this on Wikidata
Map

Dau lyn yng Ngwynedd yw Llynnau Cwm Silyn, y ddau ag arwynebedd o tua 15 acer.

Saif y ddau lyn yng nghysgod Craig Cwm Silyn, ar ochr de-orllewinol Crib Nantlle a thua 1,100 troedfedd uwch lefel y môr. Ceir brithyll yma, a dywedir fod torgochiaid wedi bod yma ar un adeg, a bod Llyn Torgochiaid yn hen enw ar y llynnoedd. Dywedir i arolwg a wnaed yn 1809 ac a gyhoeddwyd gan y bardd Dafydd Ddu Eryri ddangos fod y pysgod yma yn bresennol. Mae trac yn arwain at y llynnoedd o un o'r ffyrdd bach sy'n arwain i fyny o bentref Llanllyfni.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)