Coed Lletywalter

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Coed Lletywalter
Math Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ionawr 1971 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 38.36 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.828843°N 4.081682°W Edit this on Wikidata

Mae Coed Lletywalter, tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanbedr, Gwynedd, wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1971 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 38.36 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Math o safle[golygu | golygu cod y dudalen]

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma ychydig o hanes Llety Wallter a gasglwyd gan yr awdures Rhiannon Davies Jones trwy law Haf Meredydd gan ei nodi’n frysiog ar ddarnau o bapur a chefn amlenni:

Credid fod Llyn Llety wedi ei greu i ddwy chwaer Plas Aberartro gael lle diddos i roi eu traed yn y dŵr, ac yn lle hyfryd a thawel i ymlacio yng ngwres yr hafau a fu. Mae olion y llyn yna o hyd ond erbyn hyn drain a choed gwern sydd â’u traed yn y dŵr bellach. Mae yna argae cul ar y pen agos i Werncymerau - tybed ai cyflenwi dŵr i dai ystâd Aberartro oedd pwrpas y llyn? Yn ôl y sôn bu farw mab Llety Wallter ac fe daenwyd lliain gwyn dros yr arch fel arwydd o farwolaeth unigolyn ifanc iawn. Ni wyddir ymhle y’i claddwyd - stori arall ydy bod gwr, gof wrth ei alwedigaeth, ar ei ffordd adra o fod wedi bod yn casglu dyledion yn Harlech, wedi cael ei lofruddio, a bod y llofrudd wedi cuddio'r sofrenni mewn cwdyn yn un o furiau Llety Wallter tua 1890. Doedd yno neb yn byw ar y pryd.

Mae Llety yn awgrymu lle i aros. Tybed a oedd y murddun yma yn llety i borthmyn? Yr oedd gefail gerllaw, a chae i gadw’r gwartheg dros nos (fe fyddai hen nain Penbont, Ann Owen, yn rhentu’r cae yma i gadw buwch dros yr haf). Mae’n bosib fod yna lwybrau’r porthmyn yn bwydo i mewn i’r prif lwybr yn Llety Lloegr a throsodd i‘r Bontddu. Felly ai mynd i fyny heibio Efail Llety dros Pen y Bont heibio i’r Fron Dosdaidd, dros Sarnau’r Geifr ac i fyny i Ben Rallt Fawr ac ymuno yn Llety Lloegr, neu groesi’r afon yn is i lawr ac i fyny heibio’r Allt Goch, ac Uwchlaw’r Coed ac ymlaen heibio Cors y Gedol? Pwy a wyr?
Mae Coed Llety Walter bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol dan ofal Coed Cadw.[2]

Cyffredinol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); adalwyd 25 Rhagfyr 2013
  2. Pigion o’r papurau bro (Llais Ardudwy): Llety Wallter (rhwng Pentre Gwynfryn a Phenbont, Llanbedr) ym Mwletin Llên Natur rhifyn 64[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]