Coal House

Oddi ar Wicipedia
Coal House
Stack Square lle gosodwyd Coal House
GwladCymru
Nifer o gyfresi2
Nifer o benodau12
Cynhyrchiad
Hyd y rhaglen30 munud
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolBBC One Wales
Darlledwyd yn wreiddiolHydref 2007 – Tachwedd 2008

Roedd Coal House yn gyfres teledu Cymreig a wnaed gan Indus Films ar gyfer BBC Cymru, a'i ddarlledu ar BBC One Wales, gydag ailadrodd o'r ddwy gyfres ar BBC Four yn y DU. Gosodwyd Cyfres 1 ym meysydd glo'r deheubarth ym 1927, tra bod Cyfres 2 wedi'i osod yn 1944 wrth i'r Ail Ryfel Byd dirwyn i ben. Darlledwyd Cyfres 2 ar y BBC ledled y DU o fis Hydref 2009

Plot[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfres yn dilyn tri theulu sy'n cael eu gosod mewn lleoliad sy'n dyblygu ffordd o fyw pobl Cymru a oedd yn byw mewn tref lofaol y cyfnod hwnnw. Mae'r teuluoedd a ddewiswyd yn gadael bywyd moethus y 21 ganrif ar ôl, gan gyfnewid bywyd modern am fwthyn glowyr yn Stack Square ym mynyddoedd Blaenafon. Mae'r gwaith glo yn eiddo i Mr Blanford, ac mae'n 4 milltir (6.4 km) i fyny'r bryniau. Mae'n ofynnol i ddynion a bechgyn dros 14 oed weithio yn y pyllau glo.

Cyfres 1[golygu | golygu cod]

Ym mis hydref 2007. Cafodd tri o deuluoedd Cymreig eu cludo yn ôl i faes glo'r deheubarth fel yr oedd yn y 1920au. Cafodd bythynnod Stack Square, a leolir yng Ngwaith Haearn Blaenafon, eu trawsnewid i gartrefi mwynwyr nodweddiadol o 1927.[1] Mae tri theulu (teulu Cartwright o Benarth, teulu Griffiths o Geredigion, a theulu Phillips o Fro Morgannwg), yn ymdopi â bywyd bob dydd fel bu'r gymuned fwyngloddio Gymreig yn byw 80 mlynedd ynghynt - blwyddyn ar ôl y streic gyffredinol a blwyddyn cyn cenedlaetholi'r pyllau glo.

Roedd raid i'r dynion a'r bechgyn dros 14 gwneud taith cerdded hir a llym tros y mynyddoedd ym mhob tywydd, i wynebu diwrnod hir fel glowyr ym mhwll 2 Blaentyleri - y pwll glo olaf o'i fath yn y DU. Yn y cyfamser, roedd yn rhaid i'r menywod redeg y cartref dan amodau 1927, gan gadw'r plant mewn bwyd a diod a chadw'r tŷ yn lan. Roedd hyd yn oed gwneud cwpaned o de yn cynnwys y gwaith caled o gasglu dŵr o bwmp a goleuo tân.

Daeth y gyfres i ben gyda phennod olaf arbennig awr o hyd a oedd yn cynnwys Cyngerdd orymdaith newyn a gynhaliwyd yng Nghapel Park Street, Blaenafon. Cymerodd Côr Meibion Blaenafon ran yn y cyngerdd, ynghyd ag aelodau o deuluoedd Coal House a oedd yn canu ac yn adrodd penillion.[2]

Cyfres 2[golygu | golygu cod]

Ym mis hydref 2008 cafwyd cyfres ddilynol ei ddarlledu Coal House at War lle cafodd tri theulu newydd  eu cludo yn ôl i gyfnod yr Ail Ryfel Byd ac amodau 1944. Y tro hwn cawsant gwmni faciwîs a Bechgyn Bevin.[3]

Mae tri theulu - (teulu Griffiths o Rydaman,  teulu Paisey o Gaerdydd, a theulu Tranter Davies o Ferthyr Tudful) - yn byw bywyd fel yr oedd mewn cymuned lofaol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mewn ymgais i gael cipolwg ar sut roedd pobl yn byw yn ystod y rhyfel, fe wnaethant gyfnewid bywyd bywiog yr 21 ganrif ar gyfer ffordd symlach o fyw cyfnod y rhyfel.

Fel gyda'r gyfres gyntaf, roedd yn rhaid i'r dynion a'r bechgyn dros 14 weithio diwrnod hir fel glowyr ym Mwynglawdd Blaentyleri Rhif 2. Unwaith eto, rhaid iddynt ymdopi â gofynion perchennog y pwll, Mr Blanford. Disgwylir hefyd i ddynion y teulu wneud eu dyletswydd yn y Gwarchodlu Cartref ar ôl diwrnod hir o dan ddaear. Roedd y pyllau glo yn cael eu hystyried yn darged milwrol, felly roedd eu hamddiffyn yn hanfodol. Roedd yn rhaid i'r menywod redeg y cartref dan amodau 1944, a oedd yn cynnwys gwaith rhyfel a bwydo eu teuluoedd allan o ddognau bwyd cyfyngedig.

Gwybodaeth amgen[golygu | golygu cod]

Mae'r bythynnod a ddefnyddiwyd ar gyfer y ddwy gyfres ar agor i'r cyhoedd yn y gwaith Haearn.

Yn 2009 cyhoeddodd Y Lolfa llyfr gan y teulu Griffiths (o'r gyfres gyntaf) Bywyd yn y Coal House: Y Teulu Griffiths [4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. BBC Coal House adalwyd 14 Awst 2018
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-08. Cyrchwyd 2018-08-14.
  3. BBC Coal House at War adalwyd 14 Awst 2018
  4. Gwefan Gwales; adalwyd 14 Hydref 2018