Gwaith Haearn Blaenafon

Oddi ar Wicipedia
Gwaith haearn Blaenafon
Mathgwaith haearn, amgueddfa Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1789 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBlaenafon Edit this on Wikidata
SirBlaenafon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr355.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.776983°N 3.089177°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM200 Edit this on Wikidata

Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn hen safle diwydiannol sydd bellach yn amgueddfa ym Mlaenafon, Gwent. Roedd y gwaith haearn yn hanfodol bwysig yn natblygiad bydeang y gallu i ddefnyddio mwynau haearn gyda chynwys sylffwr uchel a oedd yn rhad, ac o ansawdd isel. Ar y safle bu Sidney Gilchrist Thomas a'i gefnder Percy Gilchrist yn cynnal arbrofion a arweiniodd at "y broses dur sylfaenol" neu broses "Gilchrist-Thomas".

Mae'r gwaith haearn yn sefyll ar gyrion Blaenafon, ym mwrdeistref Torfaen, o fewn Tirlun Diwydiannol Blaenafon. Mae'n Safle Treftadaeth y Byd.

Mae'r safle o dan ofal Cadw, asiantaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu'r amgylchedd hanesyddol.

Hanes y gwaith[golygu | golygu cod]

Dwy ffwrnais

Cyfnod cynnar[golygu | golygu cod]

Trem o'r gwaith, 1800

Bu'r tir lle fu'r gwaith Haearn yn sefyll ar un adeg yn eiddo i Arglwydd y Fenni. Roedd yn cael ei osod a ar brydles ym 1787 i dri gŵr busnes o ganolbarth Lloegr, Thomas Hill, ei frawd-yng-nghyfraith, Thomas Hopkins a Benjamin Pratt.[1] Cychwynnodd y tri i adeiladu'r  gwaith haearn ar unwaith. Roedd y safle yn cynnwys nifer o fythynnod "moethus". Gwaith Haearn Blaenafon oedd y cyntaf i gael ei gynllunio fel safle aml-ffwrnais o'r cychwyn cyntaf,[2] roedd yno tair ffwrnais, odynau calch, bythynnod, a siop cwmni.

Ymwelodd yr archddiacon Coxe â Blaenafon yn ystod 1798-99 gan ganu clodydd y dref fechan fel sefydliad ysblennydd oedd ar gynyddu, a oedd yn cael ei hamgylchynu â phentyrrau o fwyn, glo a chalchfaen.[3] Y rheswm am dwf Blaenafon, o gymuned wledig i gymuned ddiwydiannol, oedd y cyfoeth o ddyddodion mwynau a geir yn yr ardal gyfagos. Roedd y dyddodion yn brigo trwy arwyneb y tir gan wneud ei echdynnu yn broses gymharol rad.

Datblygiad[golygu | golygu cod]

Roedd y gwaith haearn cyfagos ym Mhont-y-pŵl wedi dibynnu ar siarcol a dŵr. Ond roedd Natur y gwaith a gyflwynwyd i Flaenafon yn wahanol. Bu'r gwahaniaethau yn cynnwys defnyddio technoleg glo a grym ager, nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar yr adeg honno yn y cymoedd dwyreiniol.[4] Roedd angen gweithlu medrus a pharhaol i gynal y gwaith, nad oedd yn bodoli yn yr ardal. Daeth y gweithlu newydd yn bennaf o orllewin Cymru, Swydd Stafford, Swydd Gaerloyw, Swydd Henffordd, Gwlad yr Haf a'r Iwerddon. Daeth dynion di-grefft i'r ardal hefyd ar gyfer yr addewid am waith.  daeth y dynion yn aml gyda'u teuluoedd. Bu i boblogaeth yr ardal ehangu o ychydig dros 1,000 ym 1800[5] i 5115 ym 1840, gyda 61% yn siarad Cymraeg a'r gweddill yn Saesneg.[6]

Erbyn 1800 roedd gwaith Haearn Blaenafon wedi cyfrannu'n fawr i wneud deheudir Cymru'r rhanbarth cynhyrchu haearn blaenaf yn y byd. Roedd cynhyrchu ym Mlaenafon yn ail yn unig i waith haearn Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, y cynhyrchydd haearn mwyaf yng Nghymru.  Cafodd dwy ffwrnais newydd eu hychwanegu yn ystod y degawd nesaf ac yn 1804 adeiladwyd gefail yn Cwmafon. Erbyn 1833 roedd y cwmni yn berchen ar 430 o dai ac yn cyflogi 1000 o weithwyr. Ond yn dioddef o economi ffyniant a methiant oedd yn cyd-fynd a chynhyrchu haearn. Roedd hyn yn cydfynd a thoriadau cyflog, streiciau ac yn ymddangosiad y "Teirw Scotch" (grwp oedd yn dial ar weithwyr nad oeddynt yn cefnogi gweithredoedd diwydiannol.

Cwmni Haearn a Glo Blaenafon[golygu | golygu cod]

Simnai ffwrnais

Ym 1836, cafodd y gwaith ei brynu gan Gwmni Haearn a Glo Blaenafon, yn cael ei ariannu gan ŵr o Lundain, Robert Kennard. Bu'r cwmni newydd dan arweiniad rheolwr gyfarwyddwr newydd James Ashwell. Bu buddsoddiad enfawr yn y gwaith, gan gynnwys y gwaith o adeiladu tŵr cydbwyso trawiadol. Roedd y tŵr yn defnyddio lifft adleoli dŵr i gludo haearn crai o'r  safle i Gamlas Brycheiniog a'r Fenni, a oedd yn codi llai na Chamlad Sir Fynwy i gludo nwyddau i Gasnewydd. Er gwaethaf buddsoddiad o  £138,000 yn y gwaith prin fu'r arwyddion o wneud elw, a bu'n rhaid i Ashwell ymddiswyddo ym 1840.[7] Yn y blynyddoedd canlynol cafodd cledrau haearn a gynhyrchwyd ym Mlaenafon eu hallforio ar draws y byd. Cawsant eu hallforio i'r India, Rwsia a Brasil. Cawsant eu defnyddio ar gyfer prosiectau lleol hefyd megis y gwaith o adeiladu Traphont Crymlyn.

Wedi i Ashwell ymddiswyddo, penodwyd dyn o'r enw Mr Scrivener  yn rheolwr. O dan ei reolaeth bu i gynhyrchu cynyddu am gyfnod byr. Ym 1845 cyrhaeddodd gwerthiant  uchafbwynt o 35,549 tunnell o'r hyn llwyddwyd i werthu 20,732 tunnell. Roedd hyn yn gynnydd o 5,000 tunnell ar werthiant y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag roedd  hylifedd y busnes yn anwadal. Erbyn 1847 roedd gwerthiant wedi gostwng i 18,981 tunnell.[8] Bu'r gwaith yn parhau i ddioddef. Cafodd llai o haearn crai ei gynhyrchu ym 1849, yn rhannol gan fod y ffwrneisi wedi torri lawr am gyfnod o dri mis. Fodd bynnag, bur rheolwyr yn hawlio bod y gostyngiad yn ganlyniad  i'r gweithwyr yn gwrthod toriad cyflogau, a oedd yn angenrheidiol oherwydd cyflwr dirwasgedig y diwydiant haearn .[9]

Cwmni Haearn A Dur Blaenafon[golygu | golygu cod]

Cafodd y cwmni ei ail-lansio ym 1870 fel Cwmni Haearn A Dur Blaenafon ac roedd yn un o ddim ond chwech gwaith haearn yn ne Cymru i lwyddo i wneud y newid o gynhyrchu haearn  i gynhyrchu dur. Erbyn 1878 y cwmni yn cyflogi 5,000 o bobl ond roedd wedi gorgyrraedd yn ariannol ac yn methu ymysg cystadleuaeth ffyrnig. Gyda digofaint ariannol ar y gorwel cafodd y cwmni rhywfaint o ryddhad diolch i ddarganfyddiadau Sidney Gilchrist Thomas a Percy Carlyle Gilchrist o fodd i ddefnyddio mwyn haearn ffosfforig a oedd wedi bod yn aneconomaidd cynt. Cafodd eu harbrofion eu cynnal ym Mlaenafon rhwng 1877 ac 1878.[10] Bu'r rhyddhad yn fyr hoedlog gan ei fod yn golygu  bod yr Almaen a Gogledd America bellach yn gallu defnyddio eu mwynau ffosfforig eu hunnain, a arweiniodd i gyflymu dirywiad gwaith Haearn Blaenafon.

Tŵr cydbwyso dŵr

Diwedd y gwaith[golygu | golygu cod]

Ym 1880 agorodd Cwmni Blaenafon y Pwll Mawr [11] gan symud i ffwrdd oddi wrth gynhyrchu haearn. Yn 1904 cafodd y gwaith haearn ei gau. Ailgychwyn y fenter am gyfnod byr ym 1924, ond roedd yn anghynaiadwy. Roedd gefeiliau'r safle yn dal i gael eu defnyddio i gynorthwyo'r gwaith o gynhyrchu sieliau dur yn ystod y ddau ryfel byd. Wedi'r Ail Ryfel byd cawsant eu defnyddio fel iard storio gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol.

Gwarchodaeth[golygu | golygu cod]

Tua diwedd y 1950au dechreuodd archaeoleg ddiwydiannol dod i'r amlwg fel disgyblaeth, a thrwy hynny cafodd safle Gwaith Haearn Blaenafon ei arbed rhag tynged cymaint o safleoedd diwydiannol eraill o'r 18 a'r 19 ganrif. Ym 1974 cychwynwyd ar waith cadwraeth ar y safle. Yn fuan wedyn rhoddwyd gwarchodaeth statudol i o nifer safleoedd diwydiannol yng nghylch Blaenafon, gan gynnwys y gwaith Haearn.

Yn 2000 gwnaed Blaenafon a'r ardal, gan gynnwys y Gwaith Haearn, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO o dan enw "Tirlun Diwydiannol Blaenafon".[12] Mae yn awr o dan ofal Cadw.

Yn 2001, cafodd nifer o strwythurau'r gwaith eu hadfer.[13]

Mae ffwrneisi chwyth, y tŷ bwrw, y ffowndri a'r tŵr cydbwyso wedi eu cofrestru yn adeiladau rhestredig gradd 1.[14]

Mewn diwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod]

Ym 1959 gosododd y nofelydd Alexander Cordell ei waith mwyaf enwog, Rape of the Fair Country yn y gwaith Haearn a'r ardal gyfagos yng nghyfnod anterth y chwyldro diwydiannol.

Yn 2007 a 2008 defnyddiwyd bythynod y gweithwyr haearn yn Stack Square fel lleoliad y cyfresi teledu reality Coal House a Coal House at War gan BBC Cymru Wales

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Evans, J. A. H. (Spring 2000). Big Pit, Blaenavon-A New Chronology?. Gwent Local History Council. p. 4. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1337678/llgc-id:1340124/llgc-id:1340193/getText. Adalwyd 14 June 2016.
  2. McCrum, Kirstie (7 September 2013). "Going Underground; Big Pit: National Coal Museum Is Celebrating Its 30th Anniversary as a Tourist Attraction and Museum". Western Mail. Cyrchwyd 14 June 2016 – drwy Questia.
  3. Coxe, W. (1801) An Historical Tour of Monmouthshire.
  4. Atkinson, M., and Baber, C., (1987) The Growth and Decline of the South Wales Iron Industry: 1760–1880, tud36-45
  5. Coxe, W., (1801) An Historical Tour in Monmouthshire, Part 2, tud.228.
  6. Reports to the Commissioners on the Employment of Children (1841) tud.610.
  7. Evans, J. A. H. (Spring 2000). Big Pit, Blaenavon-A New Chronology?. Gwent Local History Council. p. 7. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1337678/llgc-id:1340124/llgc-id:1340193/getText. Adalwyd 14 June 2016.
  8. Lewis, S.A. Blaenavon Iron Works 1837–1880, Gwent County Record Office, MISC.
  9. Minutes, Blaenavon Iron and Coal Company, 27 April 1849
  10. History of the British Steel Industry Archifwyd 2016-08-10 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 14 Awst 2018
  11. Evans, J. A. H. (Spring 2000). Big Pit, Blaenavon-A New Chronology?. Gwent Local History Council. p. 11. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1337678/llgc-id:1340124/llgc-id:1340193/getText. Adalwyd 14 June 2016.
  12. "Blaenavon Industrial Landscape". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.
  13. "Heritage Landmark to Be Repaired; BLAENAVON: Ironworks Tower Removed for First Time in More Than 160 Years". Western Mail Nodyn:Subscription required. November 23, 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-08. Cyrchwyd September 5, 2016.
  14. Listed Buildings in Blaenavon, Torfaen, Wales, britishlistedbuildings.co.uk.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]