Cipio aelodau o'r Llynges Frenhinol gan Iran, 2007
Enghraifft o'r canlynol | Anghydfod diplomyddol |
---|---|
Dyddiad | 23 Mawrth 2007 |
Lladdwyd | 0 |
Lleoliad | Gwlff Persia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dechreuodd yr anghydfod am gipio aelodau o'r Llynges Frenhinol gan Iran, 2007 ar 23 Mawrth 2007 pan gafodd bymtheg o bersonél y Llynges Frenhinol, o HMS Cornwall, eu hamgylchynu a'u cipio gan Lynges Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol ger arfordir Irac-Iran. Bu'r criw o wyth morwr a saith môr-filwr o ddau gwch gwynt anhyblyg yn chwilio llong fasnachol pan cafon nhw eu caethiwo am 10:30 amser lleol Irac (07:30 GMT, 11:00 amser lleol Iran) gan chwe chwch Llynges Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol. Wedyn cafon nhw eu cymryd i ganolfan Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol yn Nhehran i gael eu holi.[1][2]
Yn dilyn hyn bu ymdrechion diplomyddol dwys i sicrhau rhyddhad y personél. Ar 28 Mawrth dangosodd sianeli teledu ar draws y byd deunydd fideo a ddarparwyd gan yr awdurdodau Iranaidd yn dangos rhai o'r 15 morwr Prydeinig, gan gynnwys datganiad gan Faye Turney a llythyr a honnir ei ysgrifennwyd ganddi, yn ymddiheurio am dresmasiad y Deyrnas Unedig yn nyfroedd Iran.[3] Ar 30 Mawrth dangoswyd tri aelod o'r criw ar deledu yn Iran a ryddhawyd dau lythyr arall a honnir ei ysgrifennwyd gan Turney, eto yn cyfaddef roedd y cwch Prydeinig yn nyfroedd Iranaidd.[4]
Dywed llywodraeth Prydain bod y criw yn cynnal arolygiad cydymffurfiad ar long fasnach, dan rwymedigaeth Penderfyniad 1723 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Cododd y masnachwr drwgdybiaeth wrth hwylio ar hyd ddyfrffordd Shatt al-Arab. Roedd HMS Cornwall yn rhan o'r cyfraniad Prydeinig i luoedd y glymblaid a weithredir ymgyrchoedd diogelwch arforol yn dilyn Rhyfel Irac.[5]
Ar 4 Ebrill, cyhoeddodd Arlywydd Iran Mahmoud Ahmadinejad, er yn ailadrodd yr haeriad y cafodd dyfroedd Iran eu goresgyn, y byddai'r morwyr yn cael eu rhyddhau fel "rhodd" i Brydain.[6] Pan daethant yn ôl i'r DU dywedodd y criw cawsant eu rhoi o dan "bwysau seicolegol cyson" gan awdurdodau Iran.[7]
Datganodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ar 7 Ebrill dechreuad "ymchwiliad manwl" i'r amgylchiadau ag arweiniodd at gipiad y criw o 15 gan Iran.[8] Cafodd yr ymchwiliad ei arwain gan yr Is-gadfridog Syr Robert Fulton, Llywodraethwr Gibraltar (a chyn-Comander Cyffredinol y Môr-filwyr Brenhinol).[9]
Y personél Prydeinig
[golygu | golygu cod]Y canlynol oedd y 15 o aelodau'r Llynges a Môr-filwyr Brenhinol a gipiwyd ar 23 Mawrth 2007:[4][10][11][12][13][14]
- Is-gapten Felix Carman RN
- Capten Christopher Air RM
- Prif Is-swyddog Gavin Cavendish
- Sarsiant Actio Dean Harris
- Pen-llongwr Christopher Coe
- Pen-llongwr Dros Dro Faye Turney
- Is-gorporal Mark Banks
- Llongwr Abl Arthur Batchelor
- Llongwr Abl Andrew Henderson
- Llongwr Abl Simon Massey
- Llongwr Abl Nathan Summers
- Môr-filwr Paul Barton
- Môr-filwr Daniel Masterton
- Môr-filwr Adam Sperry
- Môr-filwr Joe Tindell
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "UK sailors captured at gunpoint", BBC, 26 Mawrth, 2007.
- ↑ (Saesneg) "Diplomats meet over Iranian seizure of British sailors", CNN, 23 Mawrth, 2007.
- ↑ (Saesneg) "Iran shows held sailors on television", Reuters, 28 Mawrth, 2007.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) "Iran airs second sailor 'apology'", BBC, 30 Mawrth, 2007.
- ↑ (Saesneg) "Iraq urges Iran to free sailors", BBC.
- ↑ "Teuluoedd morwyr 'wrth eu bodd'", BBC, 4 Ebrill, 2007.
- ↑ (Saesneg) "Royal Navy captives: Key quotes", BBC, 6 Ebrill, 2007.
- ↑ (Saesneg) "Sailors reunited – inquiry starts", Yorkshire Evening Post, 6 Ebrill, 2007.
- ↑ (Saesneg) "Gibraltar Governor heads Royal Marine inquiry", gibfocus.gi, 16 Ebrill, 2007.
- ↑ (Saesneg) "Captured UK officers shown on TV", BBC, 1 Ebrill, 2007.
- ↑ (Saesneg) "More seized navy personnel named", The Guardian, 2 Ebrill, 2007.
- ↑ (Saesneg) "Profile: Captured UK personnel", BBC, 3 Ebrill, 2007.
- ↑ (Saesneg) "Named: the captured personnel", The Guardian, 4 Ebrill, 2007.