Chwythlyn

Oddi ar Wicipedia
Chwythlyn
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanrwst Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.167891°N 3.744552°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Llyn bychan yn Sir Conwy yw Chwythlyn, a leolir yn y bryniau tua 2.5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Llanrwst, Dyffryn Conwy.[1] Mae Chwythlyn a'r tir o'i amgylch wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1963 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[2] Mae ei arwynebedd yn 12.7 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle. Yn ôl Cyngor Cefn Gwlad Cymru, "Mae safle Chwythlyn yn frithwaith o ddŵr agored, ffen, cors siglennaidd, tir y mae dŵr yn trylifo drwyddo, glaswelltir corsiog a choetir gwlyb."[3]

Math o safle[golygu | golygu cod]

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Map OS 1:25,000 Eryri, Ardal Dyffryn Conwy.
  2. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013
  3. Cyngor Cefn Gwlad Cymru; adalwyd 30 Rhagfyr 2013

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]