Chwiwell America

Oddi ar Wicipedia
Chwiwell America
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Anas
Rhywogaeth: A. americana
Enw deuenwol
Anas americana
Gmelin, 1789

Hwyaden o'r genws Anas yw Chwiwell America (Anas americana). Mae'n aderyn mudol, yn nythu yn rhan ogleddol Gogledd America. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de tua Texas a Louisiana. Gellir gweld niferoedd mawr gyda'i gilydd yn y gaeaf.

Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd, gyda chefn ac ochrau llwyd a du o gwmpas y gynffon. Mae'r fron yn binc, y bol yn wyn a'r pen yn llwyd gyda gwyrdd o gwmpas y llygad; patrwm y pen yn bennaf sy'n gwahaniaethu'r rhywogaeth yma oddi wrth y Chwiwell. Gall fod yn anoddach adnabod yr iâr, sy'n frown golau o ran lliw ac yn weddol debyg i ieir rhai o'r hwyaid eraill.

Mae'n aderyn prin yn Ewrop, ond ceir ambell un gyda heidiau o'r Chwiwell, a gwelir un neu ddau ohonynt yng Nghymru bron bob gaeaf. Gall baru gyda'r Chwiwell.