Chwarel Hafod y Llan

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Hafod y Llan
Mathchwarel Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1840s Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.051275°N 4.069964°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH613524 Edit this on Wikidata
Map

Chwarel lechi ar lethrau deheuol yr Wyddfa yn ardal Beddgelert, Gwynedd, oedd Chwarel Hafod y Llan, hefyd Chwarel Cwm Llan neu South Snowdon. Saif yng Nghwm Llan uwchben Nant Gwynant (cyf. OS SH613524).

Dechreuwyd cloddio llechi yma yn y 1840au, fel datblygiad o gloddio am fetelau. Roedd tramffordd fer at y ffordd drol yng Ngwm Llan, oedd hefyd yn gwasanaethu'r mwyngloddiau copr. Ehangwyd y chwarel yn y 1860au, pan oedd sôn am gysylltiad rheilffordd o borthladd Porthmadog, ond rhoddodd y dirwasgiad yn y diwydiant llechi yn niwedd y 1870au ddiwedd arni. Bu rhywfaint o weithio ar raddfa fechan yn y 1960au.

Enwir y chwarel ar ôl fferm Hafod y Llan (gweler chwedl y Gŵr Blewog).

Chwarel Hafod y Llan o lethrau'r Wyddfa

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Alan John Richards Gazeteer of slate quarrying in Wales (Llygad Gwalch, 2007)