Chwarel Blaen y Cwm

Oddi ar Wicipedia
Adfeilion gweithdy pwyso a mynedfa cloddfa yn Chwarel Blaen y Cwm

Chwarel lechi i'r dwyrain o dref Blaenau Ffestiniog (ond yn Sir Conwy) oedd Chwarel Blaen y Cwm, weithiau Blaen-y-cwm. Fe'i dechreuwyd rhwng 1813 a 1818, a bu ar agor yn ysbeidiol hyd 1914.

Saif y chwarel yma, a chwarel gyfagos Cwt y Bugail, ar dir oedd yn eiddi i deulu Wynne, Peniarth hyd y 1860au. O 1869 ymlaen, roedd Tramffordd Rhiwbach yn ei chysylltu a Rheilffordd Ffestiniog.