Chwarel Cwt y Bugail

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Cwt y Bugail
Tramffordd Rhiwbach, yn dangos lleoliad Cwt y Bugail

Chwarel lechi i'r dwyrain o dref Blaenau Ffestiniog yw Chwarel Cwt y Bugail, weithiau Cwt-y-bugail. Fe'i dechreuwyd ar raddfa fechan tua 1840, a bu gweithio parhaus yma o 1863 hyd nes iddi gau yn 1961. O 1869 ymlaen, roedd Tramffordd Rhiwbach yn ei chysylltu a Rheilffordd Ffestiniog.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn 1863, ffurfiwyd y New Cwt y Bugail Slate Company Ltd. i weithio'r safle. Gwerthwyd hi i'r Bugail Slate Quarry Company Ltd. yn 1875, yna i Owen Williams o bentref cyfagos Penmachno yn 1877. Yn y 1870au roedd dros gant o weithwyr yma.

Yn ddiweddarach, dechreuodd cwmni McAlpine ddefnyddio'r enw "Cwt y Bugail" ar gyfer Chwarel Manod.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • M.J.T. Lewis Blaen y Cwm and Cwt y Bugail Slate Quarries (Adit Publications, 2003) ISBN 0952297930

Dolen allanol[golygu | golygu cod]