Cholet

Oddi ar Wicipedia
Cholet
Mathcymuned, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth53,936 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethGilles Bourdouleix Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Dorohoi, Oldenburg, Dénia, Solihull, Araya Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd87.47 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr124 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMaulévrier, Le May-sur-Èvre, Mazières-en-Mauges, Nuaillé, Saint-Christophe-du-Bois, Saint-Léger-sous-Cholet, La Séguinière, La Tessoualle, Trémentines, Mauléon, Mortagne-sur-Sèvre Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.0589°N 0.8797°W Edit this on Wikidata
Cod post49300 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Cholet Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethGilles Bourdouleix Edit this on Wikidata
Map

Mae Cholet yn gymuned yn Département Maine-et-Loire yn Rhanbarth Pays de la Loire, Ffrainc. Mae'n ffinio gyda Maulévrier, Le May-sur-Èvre, Mazières-en-Mauges, Nuaillé, Saint-Christophe-du-Bois, Saint-Léger-sous-Cholet, La Séguinière, La Tessoualle, Trémentines, Mauléon, Mortagne-sur-Sèvre ac mae ganddi boblogaeth o tua 53,936 (1 Ionawr 2021).

Poblogaeth[golygu | golygu cod]

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Cholet wedi ei leoli yn ne-orllewin eithafol département de Maine-et-Loire yn rhanbarth Mauges.[1]

Mae'r ddinas yn gorwedd wrth derfynau tair département Dyffryn Loire (Maine-et-Loire, Vendée, Liger-Atlantel) a département yn rhanbarth Aquitaine-Limousin-Poitou-Charentes (Deux-Sèvres). Fel hed y deryn mae'r dref wedi ei leoli 53.4 km i'r de-ddwyrain o Naoned, 60.2 km gogledd-ddwyrain o La Roche-sur-Yon, 51.6 km i'r de-orllewin o Angers a 106.7 km i'r gogledd-orllewin o Poitiers.

Henebion a llefydd o ddiddordeb[golygu | golygu cod]

Olion Cynhanesyddol a Hynafiaethol[golygu | golygu cod]

Mae llawer o ddarganfyddiadau archeolegol yn profi presenoldeb poblogaeth cyn hanesyddol yn nhiriogaeth y gymuned, gan gynnwys nifer o lathryddion a 33 bwyell cerrig caboledig. Mae yna 13 maen hir yn dal i sefyll yn yr ardal, ac mae yna dystiolaeth bod o leiaf pump arall wedi diflannu[2] . Canfuwyd mynwent o gyfnod oes y cerrig yn Montruonde gyda thystiolaeth o gladdu ac amlosgi.

Bu ffordd Rufeinig yn cysylltu Naoned â Poitiers yn croesi'r gymuned ger yr orsaf drenau presennol. Canfuwyd cynefin Galaidd yn ardal Natteries ac adeilad pedwar ochrog yn perthyn i ddiwylliant Celtaidd La Tene yn cwmpasu tua 128 m2.[3]

Adeiladau crefyddol[golygu | golygu cod]

  • L'église du Sacré-Cœur (Eglwys y Galon Sanctaidd) adeiladwyd rhwng 1937 a 1942 gan y pensaer Maurice Cholet Laurentin, yn yr arddull Rhufeinig - Bysantaidd.
  • Eglwys Notre-Dame, priordy a sefydlwyd gan fynachod Saint-Michel-en-l'Herm. Yn ystod y Chwyldro Ffrenig fe'i defnyddiwyd fel carchar. Ailadeiladwyd ac addaswyd yr eglwys yn y 18g
  • Adeiladwyd Eglwys Saint-Pierre yn gyntaf yn y 7g, cafodd ei fandaleiddio a'i ddinistrio gan y Normaniaid yn y 15g. Ailadeiladwyd yr eglwys ym 1752
  • Agorwyd Eglwys Sant Bernadette ym 1963 gan yr Esgob Mazerat.
  • Cafodd Eglwys St Louis Marie Grignon de Montfort ei hadeiladu gan wirfoddolwyr rhwng 1957 a 1958
  • Cafodd Capel St Louis, hen gapel yr ysbyty, ei hadfer yn ddiweddar, a bellach yn cael ei ddefnyddio fel awditoriwm.
  • Mae cwfaint St. Francois Assisi a sefydlwyd yn 2002, yn defnyddio adeilad a sefydlwyd fel lleiandy Ffransisgaidd ym 1885
  • Agorwyd Chapelle du Bon-Pasteur (Capel y Bugail Da) ym 1865
  • Grande mosquée de Cholet, Mosg ar gyfer dilynwyr crefydd Islam.
  • Mosg Twrcig a adeiladwyd yn 2010 [4]

Adeiladau sifil[golygu | golygu cod]

  • Neuadd y ddinas
  • Y Tŵr Halen
  • Y Theatr Fwrdeistrefol, agorwyd 5 Hydref 1887 cyn cael ei ddifrodi yn rhannol gan dân 23 Ebrill 1949 cyn cael ei gau yn 2011.[5]
  • Y llys barn a adeiladwyd ar safle hen château.
  • Castell Tremblaye

Cofebion[golygu | golygu cod]

  • Cofgolofn Brwydr Cholet ar 17 Hydref 1793 (llun 1)
  • Cofadail Henri de la Rochejaquelein (llun 2)
  • Cofeb 2il Leng Maine-et-Loire (llun 3)
  • Cofgolofn rhyfel 1870 (llun 4)
  • Cofgolofn y Rhyfel Byd Cyntaf (gydag enwau milwyr a bu farw mewn brwydrau diweddarach wedi eu hatodi) (llun 5)
  • Cofgolofn y Resistance yn yr Ail Ryfel Byd (llun 6)

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cysylltiadau Rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Mae Cholet wedi'i gefeillio â:


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cymunedau Maine-et-Loire

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "lion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2017-01-16. Unknown parameter |consulté le= ignored (|access-date= suggested) (help); Unknown parameter |titre= ignored (|title= suggested) (help); Unknown parameter |site= ignored (help).
  2. Christophe Belser, Cholet il y a cent ans en cartes postales anciennes, Prahec, Patrimoines et médias, 2009, 139 p. (ISBN 978-2-916757-00-1, notice BnF no FRBNF40953217)
  3. De l'habitation rurale à la naissance de l'urbanisme en Gaule protohistorique, l'exemple du midi mediterranéen[dolen marw]
  4. "Une nouvelle mosquée turque en construction". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-28. Cyrchwyd 2017-01-16.
  5. Agence pour la promotion du Choletais, « Dans un coin du musée … un plafond haut en couleurs », Synergences hebdo, l'hebdomadaire de la Communauté d'Agglomération du Choletais, no 272,‎ 12 au 18 septembre 2012, p. 3
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.