Chichewa
Chewa | |
---|---|
Nyanja | |
Chichewa, Chinyanja | |
Yn brodorol i | Malawi |
Ardal | De-orllewin Affrica |
Ethnigedd | Chewa |
Siaradwyr brodorol | 7 miliwn (2007)[1] |
Lladin (y wyddor Chewa) Mwangwego Breil Chewa | |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn | |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | ny |
ISO 639-2 | nya |
ISO 639-3 | nya |
Glottolog | nyan1308 |
N.30 (N.31, N.121) [2] | |
Linguasphere | xag 99-AUS-xaa – xag |
![]() Ardaloedd lle mai'r Chewa yw'r brif iaith (porffor). Mae gwyrdd solet yn dynodi gwlad lle mae Chewa yn iaith swyddogol, mae gwyrdd streipiog yn dynodi gwlad lle mae Chewa yn iaith leiafrifol gydnabyddedig. | |
Iaith yn perthyn i deulu'r ieithoedd Bantu yw Chichewa neu Chicheŵa, hefyd Chewa. Mae'r rhagddodiad "chi" o flaen "Chewa" yn golygu "iaith". Gelwir hefyd yn Nyanja. Fe'i siaredir gan 57.2% o'r boblogaeth ym Malawi, lle mae iddi statws iaith genedlaethol (Saesneg yw'r iaith swyddogol). Siardeir Chichewa hefyd yn Sambia, lle mae'n un o'r saith iaith lwythol swyddogol, ac yn Mosambic. Yn Simbabwe saif yn drydedd o ran defnydd o'i ieithoedd brodorol, ar ôl Shona a Sindebele. Gellir hefyd ei hystyried fel tafodiaith o Shona, iaith sy'n perthyn yn agos iddi.
Daeth yr iaith Chichewa i amlygrwydd yn ystod cyfnod Ymerodraeth y Maravi, oedd yn rheoli Malawi a rhannau o Fosambic a Sambia rhwng y 15fed a'r 18g. Llwyth sy'n byw ger Llyn Malawi yw'r Chewa; mae chicheŵa yn golygu "iaith y Chewa". Mabwysiadwyd yr iaith gan genhadon yn y 19g, a chyfieithwyd rhannau o'r Beibl iddi tua diwedd y ganrif honno.
- ↑ Mikael Parkvall, "Världens 100 största språk 2007" (The World's 100 Largest Languages in 2007), in Nationalencyklopedin
- ↑ Jouni Filip Maho, 2009. Rhestr Guthrie Newydd wedi'i Diweddaru Ar-lein