Charlie Wegelius
![]() | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Charlie Wegelius |
Llysenw | Charly |
Dyddiad geni | 26 Ebrill 1978 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2000-2002 2003 2004 2005 2006 | |
Golygwyd ddiwethaf ar 8 Hydref 2007 |
Seiclwr proffesiynol ffordd Seisnig ydy Charles Wegelius (ganwyd 26 Ebrill 1978, Espoo, Ffindir), sy'n reidio i dîm Eidaleg Liquigas.
Magwyd Wegelius yn Swydd Efrog, cafodd ei gyfle cyntaf i reidio fel seiclwr proffesiynol fel stagiaire ar gyfer dîm Linda McCartney Racing Team. Cynyrchiolodd Loegr yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002.
Yn ystod 2005 Pencampwriaethau Ras Ffordd y Byd, UCI yn Madrid, dewisodd Wegelius i reidio i helpu'r tîm Eidaleg yn hytrach na helpu arweinwr ei dîm Prydeinig Roger Hammond. Gorfodwyd i Wegelius ail-dalu unrhyw gostau yn ymwneud â'r ras, datganodd British Cycling y byddain anodd rhagweld Wegelius yn reidio dros dîm cenedlaethol Lloegr na Phrydain eto[1].
Reidiodd Wegelius ei Tour de France cyntaf yn 2007, bu wedi reidio'r Giro d'Italia a'r Vuelta yn barod. Gorffennodd Charly Wegelius yn y 45ed safle, ef oedd y Prydeinwr i orffen yn y safle uchaf, 1 awr 46 munud a 26 eiliad tu ôl i'r enillydd Alberto Contador.
Canlyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 2002
- 1af Settimana Ciclista Bergamasca
- 2007
- 1af Cymal Treial Amser Tîm, Giro d'Italia
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ BBC Sports Thursday, 13 October 2005