Charles Warren

Oddi ar Wicipedia
Charles Warren
Ganwyd7 Chwefror 1840 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 1927 Edit this on Wikidata
Gwlad yr Haf Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Milwrol Brenhinol
  • Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst
  • Coleg Cheltenham
  • Bridgnorth Endowed School
  • Thomas Adams School Edit this on Wikidata
Galwedigaethanthropolegydd, swyddog milwrol, heddwas, archeolegydd, peiriannydd, ffotograffydd Edit this on Wikidata
TadCharles Warren Edit this on Wikidata
PlantViolet Warren, Charlotte Warren, Frank Warren, Richard Warren Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd General Sir Charles Warren, GCMG, KCB, FRS (7 Chwefror 184021 Ionawr 1927) yn swyddog yn y Peiriannwyr Brenhinol Prydeinig. Roedd yn un o'r archeolegwyr cynhara o'r Tir Sanctaidd Beiblaidd, ac yn enwedig o'r Temple Mount. Cafodd rhan helaeth o'i yrfa miliwrol ei dreulio yn Ne Affrica. Cyn hynny, roedd yn brif heddwas, yn bennaeth ar yr Heddlu Metropolitan yn Llundain o 1886 tan 1888, yn ystod cyfnod llofruddiaethau Jack the Ripper. Cafodd ei arweiniad yn ystod ymladd yn Ail rhyfel y Boer ei farnu, ond fe lwyddodd yn sylweddol drwy gydol ei amser hir mewn rol milwrol a cymdeithasol.

Addysg a gyrfa milwrol cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Warren ym Mangor, Gwynedd, yn fab i  Major-General Sir Charles Warren. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Gramadeg Bridgenorth ag yn Ysgol Gramadeg Wem yn Swydd Amwythig. Hefyd, fe mynychodd coleg Cheltenham am un tymor ym 1854, yna fe aeth i'r  Academi Filwrol Brenhinol, Sandhurst ac yna i'r Academi Filwrol Brenhinol yn Woolwich (1855-57). Ar y 27 Rhagfyr 1857, fe'i benodwyd yn ail is-gapten yn y Peirniannwyr Brenhinol. Ar y 1 Medi 1864, fe briododd Fanny Margaretta Haydon (bu farw ym 1919); cawson ddau o feibion a ddwy o ferched. Roedd Warren yn Anglicanwr crefyddol ag yn Saer Rhydd brwdfrydig, ddaeth yn drydydd Brif Feistr Ardal o'r Archipelago Dwyreiniol yn Singapôr ag yn sefydlwr yr Quatuor Coronati Lodge. 

Ffotograff yn dangos sut mae model Gibraltar, sy'n cael ei arddangos yn amgueddfa Gibraltar, yn dangos pob adeilad a heol.

O 1861 hyd at 1865, gweithiodd Warren ar dirlunio Gibraltar. Yn ystod yr amser yma, fe wnaeth dirlunio'r Garreg Gibralter drwy ddefnyddio triganomeg a chymorth Major-General Frome, a fe greodd ddwy fodel o Gibraltar oedd yn 8 metr (26 troedfedd) o hyd. Roedd un o rhain wedi cael ei gadw yn Woolwich, ond mae'r llall, sydd wedi goroesi, yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Gibraltar. Nid yn unig oedd y modelau yn arddangos siap Y Garreg a'r harbwr, ond pob heol ag adeilad yn o gystal. O 1865 hyd at 1867, roedd yn hyfforddwr cynorthwyol yn y maes tirlunio yn yr Academi Peirianneg Milwrol Chatham.Cafodd ei ddyrchafu'n gapten am y gwaith yma.

Ym 1867, cafodd Warren ei recriwtio gan Gronfa Ymchwiliad Palestine, er mwyn arwain prosiect rhagchwiliad archeoleg Beiblaidd gyda'r bwriad o ymchwil pellach a cloddiad i gael ei gynnal yn Ottoman Syria., ond yn fwy benodol, ar y Tiroedd Sanctaidd  neu ym Mhalestine Beiblaidd. Fe arweiniodd y brif cloddiadau o Temple Mount, Jerusalem, ag yn y modd yma annog oes newydd o archeoleg Beiblaidd. Mae ei brif ddarganfeydd yn cynnwys y siafft dŵr, sydd erbyn hyn yn cael ei adnabod fel Siafft Warren, a nifer o dwnelau o dan y Temple Mount. Cafodd ei lythyrau o'r ymchwil eu cyhoeddi nes ymlaen fel llyfr. Ym 1870, cafodd Warren ei orfodi i fynd adref oherwydd salwch.

Gyrfa milwrol hwyrach a Rhyfel y Boer[golygu | golygu cod]

De Affrica[golygu | golygu cod]

Gweithiodd am ychydig yn Dover ac yna yn yr Ysgol Saethu yn Shoeburyness (1871–73). Ym 1876, apwyntiwyd ef gan y Swyddfa Trefedigol yn gomisynydd arbennig, er mwyn tirlunio'r ffin rhwng Griqualand Gorllewiniol a'r Talaeth Rhydd Oren. Am y gwaith yma, gafodd ei benodi'n Companion of the Order of St Michael and St George (CMG) ym 1877. Yn rhyfel y Transkei (1877-78), fe arweiniodd y Diamond Fields Horse ac fe anafwyd yn wael yn Perie Bush. Am y gwaith yma gafodd ei son amdano yng nghofnodion rhyfel a'i ddyrchafu'n brevet lieutenant colonel. Yna, fe apwyntiwyd yn comisiynydd arbennig i ymchwilio "cwestiynau brodorol" yn Bechuanaland a gorchmynnodd milwyr Cyrchfan Ffin y Gogledd i dawelu rhyfela yno. Ym 1879, ddaeth yn Weinyddwr o Girqualand Gorllewinol. Mae'r tref, Warrenton, yn Northern Cape Province o Dde Affrica wedi ei enwi ar ei ôl.

Ym 1880, fe ddychwelwyd i Lundain i fod yn Brif Arweinydd mewn tirlunio yn yr Academi Peirianneg Milwrol. Arhosodd yn y swydd yma hyd at 1884, er bu yna doriad yn ei ddyletswydd ym 1882 pan anfonodd y Morlys ef i Sinai i ddarganfod beth ddigwyddodd i ymchwiliad archeolegol Professor Edward Henry Palmer. Darganfyddodd fod criw yr ymchwiliad wedi cael eu lladrata a'u llofruddio, darganfyddodd eu cyrff a ddaeth a'r llofruddwyr at ddedfryd. Am hyn, fe wnaeth yn Knight Commander of the Order of St Michael and St George (KCMG) ar y 24ain o Fai 1883 hefyd, fe dderbyniodd Order of the Medjidie, Third Class gan Llywodraeth yr Aifft. Ym 1883, cafodd ei wneud yn Knight of Justice of the Order of St. John of Jerusalem, ag ym Mehefin cafodd ei ethol yn Fellow of the Royal Society (FRS).

Warren circa 1886

Ym mis Rhagfyr 1884, erbyn hyn fel lieutenant-colonel, anfonwyd Warren fel HM Special Commissioner er mwyn rheoli cyrchfan milwrol Bechuanaland, er mwyn dangos goruchafiaeth Prydain mewn ymateb i tresmas yr Almaen a'r Transvaal, ag i ddarostwng y taleithiau ysbeiliedig y Boer, Stellaland a Goshen, ag oedd yn cael eu cefnogi gan Transvaal ag oedd yn dwyn tir a gwartheg wrth y llwythau Tswana lleol. Roedd y fyddin o 4,000 o filwyr Prydeinig a rhai lleol, wedi dechrau eu ffordd i'r Gogledd o Cape Town, gyda'r milwyr, roedd y tair balwn arsyllu cyntaf erioed i gael eu defnyddio gan y fyddin Prydeinig ar faes y gad, wedi dechrau cael eu hadnabod fel Cyrchfan Warren. Llwyddodd y gyrchfan gyflawni eu bwriad heb unrhyw golled gwaed, cafodd Warren ei alw yn ôl ym mis Medi 1885 ac fe wnaed yn Knight Grand Cross of the Order of St Michael and St George (GCMG) ar y 4ydd o Hydref 1885.

Warren gan Ape yn Vanity Fair, 1886

Ym 1885, wnaeth Warren sefyll fel Rhyddfrydwr annibynnol gyda maniffesto radical i geisio cael ei ethol yn senedd y Deyrnas Unedig ar ran  Sheffield Hallam (etholaeth seneddol). Fe gollodd o 690 o bleidleisiau ac fe apwyntiwyd yn gydlywydd yn Suakin ym 1886. Ond ychydig wythnosau ar ôl iddo gyrraedd, fe'i apwyntiwyd yn Gomisynydd Heddlu y Metropolis, yn dilyn ymddiswyddiad Sir Edmund Henderson.   

Mae'r union rhesymeg dros ddewis Warren am y swydd dal ddim yn glir heddiw. Hyd at yr amser yma, ag am ychydig o amser i mewn i'r 20g, roedd penaethiaid Scotland Yard wedi cael eu dewis o'r rhengoedd milwrol. Yn achos Warren, efallai ei fod wedi cael ei ddewis yn rhannol am ei ran yn ymchwiliad i ffawd cyrch yr Athro Palmer yn y Sinai ym 1883. Os felly, mae'n bosib fod yna gwall difrifol ynghylch ei "gwaith heddlu" yn yr achos hyn, gan mai ymchwiliad milwrol ydoedd ac nid ymchwiliad yr un fath ag un yr heddlu sifil.

Roedd yr Heddlu Metropolitan mewn stad wael pan gymrodd Warren trosodd, roedd yn dioddef o segurwydd Henderson o'r blynyddoedd cynt. Roedd sefyllfa ariannol Llundain yn wael, arweiniodd hyn at arddangosiadau. Roedd yn bryderus o iechyd ei ddynion, ond aeth llawer o hyn heb sylw. Roedd ei ddynion yn meddwl ei fod yn weddol oeraidd, ond ar y cyfan roedd ganddo berthynas dda gyda'i uwcharolygwyr. Yn jiwbili aur Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig ym 1887, derbyniodd yr heddlu cryn dipyn o sylw gwrthwynebus ar ol i Miss Elizabeth Crass, gwniadwraig parchus, wedi (o bosib) cael ei harestio ar gam am llithio, derbyniodd hi cefnogaeth gan ei chyflogwr yn y cwrt.

I wneud pethau'n waeth, doedd Warren, Rhyddfrydwr, ddim yn gweld llygad yn llygad gyda'r Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol, Henry Matthews, a apwyntiwyd ychydig fisoedd ar ôl i Warren gael ei apwyntio'n Gomisiynydd. Roedd Mathews yn cefnogi awen y Comisiynydd Cynorthwyol, James Monro, i barhau i fod yn annibynnol o'r Comisiynydd ac roedd hefyd yn cefnogi y Derbynnydd, prif swyddog ariannol yr heddlu, a oedd yn gwrthdaro gyda Warren yn reolaidd. Doedd Ysgrifennydd Parhaol Godfrey Lushinton o'r Swyddfa Gartref ddim yn dod ymlaen gyda Warren ychwaith. Rhigodwyd Warren yn y wasg am ei wisg gormodol, ei bryder am safon ei esgidiau (pryder synwyradwy gan ei fod yn cerdded hyd at 20 milltir y dydd, ond un a gafodd ei watwar fel obsesiwn milwrol gyda pac); ac ei ailgyflwyniad o'r dril. Trodd y wasg radicalaidd yn ei erbyn yn llwyr ar ôl y Sul Gwaedlyd ar y 13 Tachwedd 1887, Pan gafodd protest yn Sgwar Trafalgar ei rwystro gan 4,000 o swyddogion heddlu ar droed, 300 o droedfilwyr a 600 o heddlu farchogol a amddiffynwyr bywyd. 

Ym 1888, cyflwynodd Warren Prif Gwnstabwliaid, gyda safleodd rhwng y uwcharolygwyr heddluol a'r comisiynwyr cynorthwyol. Mynnodd Monro dylid Prif Cwnstabl yr adran ymchwiliadau trosedd, ei ddirprwy, fod yn ffrind iddo, Melville Macnaghten, roedd Warren yn gwyrthwynebol o hyn ar y sylfaen, yn ystod terfyd yn Bengal, cafodd Macnaghten ei "daro gan Hindwiaid", fel y dywedodd ef. Datblygodd hyn mewn i wrthwynebiad fawr rhwng Warren a Monro, gyda'r ddau ddyn yn cynnig eu ymddiswyddiad i'r Ysgrifennydd Cartref. Derbyniodd Matthews ymddiswyddiad Monro, ond fe symudwyd draw i'r Swyddfa Cartref ac fe ganiataodd ef i reoli Cangen Arbennig, a oedd yn ddiddordeb pennaf iddo. Apwyntiwyd Robert Anderson yn Gomisiynydd Cynorthwyol, apwyntiwyd yr Uwcharolygydd heddluol Adolphus Williamson yn Brif Gwnstabl. Roedd y ddau dyn wedi cael eu annog i gydweithio a Monro heb i Warren wybod.

Jack the Ripper[golygu | golygu cod]

Anhawster mwyaf Warren oedd achos Jack the Ripper. Cafodd ei farnu am fethu dal y llofrudd a gwynebodd cyhuddiadau o'r wasg a oedd yn aml heb sail. Cafodd ei gyhuddo o fethu cynnig gwobr am gwybodaeth, er roedd o blaid y syniad ond fe'i hataliwyd gan y Swyddfa Cartref. Cyhuddwyd o beidio rhoi digon o swyddogion heddlu allan yn y ddinas, er y gwirionedd yw roedd Whitechapel yn llawn ohonynt. Cyhuddwyd o gael fwy o ddiddordeb mewn heddlua mewn gwisg swyddogol nag gwaith detectif, roedd hyn yn wir ond roedd Warren yn galluogi ei swyddogion detectif mwyaf profiadol i gynnal ymchwiliadau eu hunain ac roedd yn anaml yn ymharu ar yr ymchwiliadau yma. Cyhuddwyd o beidio defnyddio gwaetgwn ond pen penderfynodd eu defnyddio nhw yn y pen draw, fe gyhuddwyd o datblygu obsesiwn gyda nhw.

Ymatebodd i'r cyhuddiadau yma drwy ymosod ar ei fychanwyr yn nhudalennau Murray's Magazine, cefnogodd gweithgarwch gwarchodwr, roedd yr heddlu ar y strydoedd yn gwybod nad oedd hyn yn syniad da, ac fe cwynwyd yn gyhoeddus am diffyg rheolaeth Warren ar yr adran, arweiniodd hyn ar y Swyddfa Cartref ddweud y drefn wrtho ynglŷn â trafod ei swyddfa yn gyhoeddus heb caniatad. Yn y diwedd, roedd Warren wedi cael digon ac fe ymddiswyddodd, drwy gyd-ddigwyddiad, yn fuan cyn llofruddiaeth Mary Jane Kelly ar y 9fed o Dachwedd 1888. Wnaeth pob uwcharolygydd yn y llu heddlu ymweld gyda Warren yn ei gartref i ddangos cyd-ymdeimlad am yr hyn ddigwyddodd. Dylanwadodd ymddiswyddiad Warren ar yr ymchwiliad i'r llofruddiad. Roedd Warren wedi rhoi cyfeiriadaeth, os oedd llofruddiaeth arall yn digwydd, ni ddylid unrhywun fynd i'r maes llofruddiaeth - torad gwahanol i'r arfer gan fod cyrff o'r pedwar llofruddiaeth blaenorol wedi cael eu darganfod yn y stryd - tan iddo fe gyrraedd y safle i arwain yr ymchwiliad. Pan ddarganfyddwyd corff Kelly, casglwr rent wnaeth ddarganfod Kelly wrth iddo edrych drwy ffenestr ei hystafell mewn tŷ yn Spitalfields, ni wnaeth yr heddlu fynd mewn i'r ystafell am tua tair awr achos, yn anymwybodol o'i ymddiswyddiad, roeddent yn aros i Warren gyrraedd. Aeth Warren yn ôl at ei ddyletswyddau milwrol.

Apwyntiwyd Warren yn Knight Commander of the Order of the Bath (KCB) ar 7 Ionawr 1888.

Ym 1889, anfonwyd Warren i arwain y gariswn yn Singapôr a parhaodd i anghytuno gyda'r Ysgrifennydd Cartref. Arweiniodd y gynnau o Singapor ac fe arhosodd yno tan 1894. Wedi dychwelyd i Loegr, arweiniodd y Rhanbarth y Tafwys o 1895 tan 1898, cafodd ei apwyntio'n is-gadfridog a'i symud i'r Rhestr Adfyddin.

Roedd sgiliau hwylio yn un o'r nifer o sgiliau oedd ar alw'r peiriannydd yn y fyddin a arweiniodd at ffurfio'r clwb hwylio yn yr Academi Peiriannwyr Milwrol ym 1812, datblygodd hyn ar ddyddiad hwyrach i dimoedd rhwyfo. Adeiladwyd camlas yn cysylltu afonydd y Tafwys a Medway ym 1824, rhoddwyd hyn llwybr dŵr mewndirol i'r milwyr allu ymarfer eu sgiliau, roedd y swyddog fu'n gyfrifol am y camlas wedi ei dynnu o Gatrawd y Peiriannwyr Brenhinol. Ym 1899, fel Swyddog Cadfridog yn rheoli Camlas y Tafwys a Medway, cyflwynodd y Cadfridog Syr Charles Warren tarian her ar gyfer cystadleuaeth rhwyfo ar yr afon Medway yn erbyn Y Llynges Frenhinol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Austin, Ron. The Australian Illustrated Encyclopedia of the Zulu and Boer Wars, Slouch Hat Publication, McCrae, 1999. ISBN 0-9585296-3-9
  • Bloomfield, Jeffrey, The Making of the Commissioner: 1886, R.W.Stone, Q.P.M. (ed.), The Criminologist, Vol.12, No.3, p. 139–155; reprinted, Paul Begg (Exec. ed.), The Ripperologist, No. 47, July 2003, p. 6–15.
  • Coetzer, Owen. The Anglo-Boer War: The Road to Infamy, 1899–1900, Arms and Armour, 1996. ISBN 1-85409-366-5
  • Farwell, Byron, The Great Boer War, Allen Lane, London, 1976 (plus subsequent publications) ISBN 0-7139-0820-3
  • Fido, Martin and Keith Skinner, The Official Encyclopedia of Scotland Yard (Virgin Books, London:1999)
  • Grena, G.M. (2004). LMLK—A Mystery Belonging to the King vol. 1. Redondo Beach, California: 4000 Years of Writing History. ISBN 0-9748786-0-X.
  • Kruger, Rayne. Goodbye Dolly Gray: The Story of the Boer War, 1959
  • Oxford Dictionary of National Biography
  • Pakenham, T.The Boer War(1979)
  • Palestine Exploration Fund page on Warren
  • Jack the Ripper Casebook article on Warren
  • Large excellent photograph of Warren Archifwyd 2006-05-21 yn y Peiriant Wayback.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]