Charles Nicholl
Enw llawn | Charles Bowen Nicholl | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 19 Mehefin 1870 | ||
Man geni | Llanegwad | ||
Dyddiad marw | 9 Gorffennaf 1939 | (69 oed)||
Lle marw | Clayhidon, Dyfnaint | ||
Taldra | 187 cm (74 mod) | ||
Pwysau | 92.5 kg (204 lb) | ||
Ysgol U. | Coleg Llanymddyfri | ||
Prifysgol | Goleg y Breninesau, Caergrawnt | ||
Perthnasau nodedig | David Nicholl, brawd | ||
Gwaith | Athro, prifathro, offeiriad Anglicanaidd | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | blaenwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
1890–1893 1894 |
Prifysgol Caergrawnt Llanelli Blackheath F.C. Cymry Llundain Y Barbariaid Gorllewin yr Alban | ||
Taleithiau | |||
Blynyddoedd | Clwb / tîm | Capiau | (pwyntiau) |
1894 | Rhanbarth Glasgow | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1891–1896 | Cymru | 15 | (0) |
Blaenwr rygbi'r undeb rhyngwladol o Gymru oedd Charles "Boomer" Bowen Nicholl (19 Mehefin 1870 - 9 Gorffennaf 1939). Chwaraeodd rygbi clwb i Brifysgol Caergrawnt a Llanelli. Chwaraeodd Nicholl i Gymru ar bymtheg achlysur yn ystod Pencampwriaethau'r Pedair Gwlad rhwng 1891 a 1896, ac roedd yn rhan o'r tîm hanesyddol a enillodd Y Goron Driphlyg a'r bencampwriaeth i Gymru am y tro cyntaf ym 1893.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Nicholl yn Llanegwad, Sir Gaerfyrddin ym 1870 yn fab i Thomas Beynon Nicholl, ficer y plwyf a Hannah Rebbecca (née Morris) ei wraig. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Llanymddyfri cyn mynd i Coleg y Breninesau, Caergrawnt ym 1890.[1] Dyfarnwyd ei BA iddo ym 1893, ond ni hawliodd ei MA tan 1906. Tra yng Nghaergrawnt enillodd bum Crys Glas chwaraeon, pedair mewn rygbi rhwng 1890 a 1893, ac un mewn athletau ym 1893.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl gadael y brifysgol daeth Nicholl yn Feistr Cynorthwyol yn Ysgol Blair Lodge[2] am ddwy flynedd cyn treulio pedair blynedd yn Ysgol Aravon yn Bré, Swydd Wicklow.
Ym 1902 ordeiniwyd Nicholl yn ddiacon yn Eglwys Gadeiriol Lincoln a'r flwyddyn olynol cymerodd ei urddau fel offeiriad Eglwys Loegr. O 1902 hyd at 1908 ef oedd Curad Grantham, ac ym 1902 roedd hefyd yn Feistr Cynorthwyol yn Ysgol y Brenin, Grantham, swydd a ddaliodd hyd 1910. Rhwng 1908 a 1910 daeth yn Rheithor Wyville. Ym 1910 cymerodd swydd Prifathro Ysgol y Brenin, Grantham,[3] ond yn ystod y cyfnod hwn, hyd 1917 ni chymerodd unrhyw swyddi crefyddol ychwanegol. Wedi ymadael â Grantham fe'i penodwyd yn rheithor Clayhidon, Dyfnaint[4] gan aros yn y swydd hyd ei farwolaeth ym 1939.
Gyrfa rygbi
[golygu | golygu cod]Daeth Nicholl i sylw gyntaf fel chwaraewr rygbi pan oedd yn ddisgybl yng Ngholeg Llanymddyfri.[5] Roedd gan y coleg hanes o ddarparu talent ifanc i rygbi Cymru, gyda Charles Lewis yn cynrychioli ei wlad pan yn ddisgybl yn y coleg. Enillodd Nicholl le ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac ym 1890 dewiswyd ef i gynrychioli tîm rygbi’r brifysgol, roedd yn gapten tîm y brifysgol ym 1892.[6] Fe’i disgrifiwyd fel ‘blaenwr rhagorol’ ar gyfer pac Caergrawnt, a chynrychiolodd y tîm am bedair blynedd, gan fod yn gapten ar yr ochr yn nhymor 1892/93.[7]
Tra'n yng Nghaergrawnt, a chyn i'w yrfa ryngwladol ddechrau, daeth Nicholl yn un o sefydlwyr Clwb Rygbi'r Barbariaid. Ac er na chwaraeodd Nicholl yn y gêm gyntaf un y clwb, fe gynrychiolodd y tîm yn ystod y daith gyntaf a bu'n gwasanaethu fel aelod o bwyllgor y clwb.[8]
Wedi colli dwy gêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1891, daeth pwyllgor dethol Cymru â phedwar blaenwr newydd i mewn i bac Cymru i wynebu'r Iwerddon ar 7 Mawrth. Roedd tri, Tom Deacon a John a David Samuel, yn dod o Glwb Rygbi Abertawe; gyda Nicholl yn cymryd y safle arall. Chwaraewyd yr ornest ar Barc y Strade, Llanelli. Roedd yn gêm i benderfynu pa wlad byddai'n dod yn drydedd yn y bencampwriaeth a pha un byddai'n cael y llwy bren. Enillwyd y gêm o 6 phwynt i bedwar gan Gymru, gyda Samuel yn sgorio cais a Billy Bancroft yn sgorio o drosiad Samuel ac yn cicio gôl adlam. WEdi'r ornest honno, daeth Nicholl yn aelod rheolaidd ym mhac Cymru. Enillodd15 cap dros Gymru, a fu'n rhan o dîm 1893 a welodd Cymru yn ennill y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ac yn ennill y Goron Driphlyg am y tro cyntaf yn hanes y wlad. Yn nhwrnamaint y flwyddyn olynol bu Nicholl yn chware yn y ddwy gêm gyntaf yn erbyn Lloegr a'r Alban, ond yna collodd y gêm olaf yn erbyn yr Iwerddon, gyda'i le yn cael ei lenwi gan Fred Hutchinson o Castell-nedd . Chwaraeodd Nicholl ym mhob un o dair gêm Pencampwriaeth 1895, ond ym 1896 gwelwyd newid yn y tactegau dethol a ddefnyddiwyd gan Undeb Rygbi Cymru. Ar ôl cael crasfa gan Loegr yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth 1896 penderfynodd y dewiswyr newid llawer o'r blaenwyr oedd wedi gwasanaethu Cymru dros y pedwar tymor diwethaf, gan gynnwys enillwyr y Goron Driphlyg fel Wallace Watts ac Arthur Boucher. Penderfynodd y dewiswyr i ffafrio math newydd o chwaraewr oedd wedi magu cryfder a chaledwch yn gweithio yn y diwydiannau trwm ac i ddibynnu llai ar ddynion proffesiynol oedd wedi mynychu ysgolion bonedd a phrifysgolion. Er ei fod yn gynnyrch y system prifysgol, roedd Nicholl yn enwog am ei arddull galed o chwarae, a goroesodd tan ddiwedd y tymor ond cymerodd Dick Hellings o glwb Llwynypia ei le ym 1897.
Gemau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Cymru [9]
- Lloegr 1892,[10] 1893,[11] 1894,[12] 1895,[13] 1896
- yr Alban 1892,[14] 1893,[15] 1894,[16] 1895,[17] 1896
- Iwerddon 1891,[18] 1892,[19] 1893,[20] 1895,[21] 1896
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ym 1902 priododd Nicholl a Margaret Alice Kate Nickolls, bu iddynt tair merch ac un mab.
Bu farw yn Clayhidon yn 69 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Eglwys St Andrews, Clayhidon.[22]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883–1983. Grafton Street, Llundain: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
- Starmer-Smith, Nigel (1977). The Barbarians. Macdonald & Jane's Publishers. ISBN 0-86007-552-4.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Nicholl, Charles Bowen (NCL890CB)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
- ↑ "THE WELSH FIFTEEN - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1896-01-04. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "Nicholl, Charles - Grantham head was Welsh international". Grantham Matters. 2013-05-31. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ Crockfords Clerical Directory 1932 tud 952- Biographies. Nicholl Charles Bowen
- ↑ "THE WELSH PLAYERS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1893-03-11. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "LOCAL SPORT - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-10-12. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ Thomas, J.B.G.; Harding, Rowe Rugby in Wales Christopher Davies (publishers) Ltd. (1970) tud. 89
- ↑ Starmer-Smith (1977), tud. 227.
- ↑ Smith (1980), tud. 468.
- ↑ "FOOTBALL AND GENERAL ATHLETIC NOTES - The Cambrian". T. Jenkins. 1892-01-08. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "ENGLAND AND WALES AT FOOTBALL - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1893-01-12. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "ENGLAND V WALES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1894-01-08. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "TODAY'S GREAT MATCH - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1895-01-05. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "THE INTERNATIONAL MATCH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-02-08. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "SCOTLANDvWALES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1893-02-04. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "WALES AND SCOTLAND MEET AT NEWPORT - The Western Mail". Abel Nadin. 1894-02-05. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "SCOTLAND v WALES - South Wales Echo". Jones & Son. 1895-01-26. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "Ireland v Wales - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1891-03-09. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "THE WELSH PLAYERS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-03-05. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "International FootballI - South Wales Echo". Jones & Son. 1893-03-13. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "WALES V IRELAND - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1895-03-18. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ Tiverton Gazette 18 Gorffennaf 1939 "Death of Rev CB Nichol Rector of Clayhidon.