Neidio i'r cynnwys

Charente

Oddi ar Wicipedia
Charente
Mathdépartements Ffrainc Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Charente Edit this on Wikidata
PrifddinasAngoulême Edit this on Wikidata
Poblogaeth352,683 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 4 Mawrth 1790 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMichel Boutant Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNouvelle-Aquitaine Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd5,956 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCharente-Maritime, Deux-Sèvres, Vienne, Haute-Vienne, Dordogne Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.83°N 0.33°E Edit this on Wikidata
FR-16 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
president of departmental council Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMichel Boutant Edit this on Wikidata
Map

Département yn région Nouvelle-Aquitaine, Ffrainc, yw Charente (Saintongeais: Chérente, Ocsitaneg: Charanta). Cafodd ei henwi ar ôl Afon Charente, yr afon bwysicaf yn y département, mae dinasoedd mwyaf y département ar hyd yr afon hon. Ei phrifddinas ydy Angoulême ac ynddi hefyd y mae trefi Cognac a Confolens.

Lleoliad Charente yn Ffrainc

Cafodd y Charente ei chreu yn y Chwyldro Ffrengig allan o'r hen dalaith Angoumois. Yn y 19eg ganrif cafwyd cyfnod o ffyniant, a chyrhaeddodd y boblogaeth uchafbwynt yn 1851. Yn 1872 daeth adfail i'r diwydiant gwin yn ffurf y phylloxera.

Roedd y boblogaeth yn sefydlog drwy'r 20g: tua 340,000. Mae dipyn o ddatblygiad o gwmpas Angoulême wedi ychwanegu tua 10,000 arall ar ben hyn.

Mae'r Charente wedi ennill ei blwyf gan bobl o wledydd Prydain sydd wedi ymddeol. Yn 2006 roedd yna dros 5,000 o ddinasyddion Prydeinig yn y département[1].

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae'r Charente yn cwmpasu arwynebedd o 5,956 km².

Mae'r rhan fwyaf yn rhan o'r Basn Aquitaine. Mae Afon Charente yn llifo drwy'r département a hefyd y département Charente-Maritime.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.