Afon Charente
Afon yn Ffrainc yw afon Charente (Occitaneg: Charanta). Mae'n tarddu yn Chéronnac yn Haute-Vienne, 295 medr uwch lefel y môr. Llifa trwy départements Vienne, Charente a Charente-Maritime cyn cyrraedd Cefnfor Iwerydd yn Port-des-Barques ger Tonnay-Charente.
Yn y cyfnod clasurol, gelwid yr afon yn "Κανεντελος" (Kanentelos").