Chaim Grade
Chaim Grade | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 4 Ebrill 1910 ![]() Vilnius, Unol Daleithiau America ![]() |
Bu farw | 26 Mehefin 1982 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd, Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, rabi, hunangofiannydd ![]() |
Adnabyddus am | The Yeshiva ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Itzik Manger ![]() |
Bardd, awdur straeon byrion, a nofelydd Lithwanaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg oedd Chaim Grade (5 Ebrill 1910 – 26 Mehefin 1982).
Ganed yn Vilna, Ymerodraeth Rwsia (bellach Vilnius, Lithwania), i rabi Seionaidd a gwerthwraig stryd. Gallasent olrhain eu llinach i swyddog ym myddin Ffrainc a gafodd ei anafu yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, trodd yn Iddew a phriododd un o'r teulu yn Vilna a ofalai amdano. Bu farw tad Chaim pan oedd yn fachgen, a bu ei fam yn ymlafnio i arbed digon o arian iddo dderbyn addysg Iddewig draddodiadol. Astudiodd Chaim mewn sawl yeshiva ac ymunodd â'r mudiad addysg Musar.[1]
Yn 22 oed, trodd ei gefn ar ei astudiaethau crefyddol a dechreuodd lenydda. Ymunodd â Yung Vilne ("Vilna Ifanc"), carfan o awduron ac arlunwyr Iddewig yr avant-garde. Wedi iddo ysgrifennu nifer o gerddi ar gyfer cylchgronau Iddew-Almaeneg, cyhoeddodd Grade ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Yo, yn 1936. Yn sgil goresgyniad Lithwania gan yr Almaen Natsïaidd yn ystod cyrch Barbarossa yn 1941, ffoes Grade i Rwsia. Dychwelodd i Vilna wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, a darganfu bod ei wraig a'i fam wedi eu lladd. Ymfudodd i Baris ac yno ysgrifennodd farddoniaeth danbaid ar bwnc yr Holocost. Yn 1948, ymfudodd Grade a'i ail wraig i Ddinas Efrog Newydd.[1]
Ymhlith ei weithiau mae'r ymgom athronyddol Mayn krig mit Hersh Rasseyner (1950), yr atgof Der mame's Shabosim (1955), y nofel Di agune (1961), y nofel fer Der brunem (1967), a'r nofel mewn dwy gyfrol Tsemakh Atlas (1967–68). Bu farw yn Ninas Efrog Newydd yn 72 oed.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Chaim Grade. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mawrth 2020.
- Beirdd Lithwanaidd yr 20fed ganrif
- Beirdd Lithwanaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg
- Genedigaethau 1910
- Hunangofianwyr Lithwanaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg
- Lithwaniaid Iddewig
- Llenorion straeon byrion Lithwanaidd yr 20fed ganrif
- Llenorion straeon byrion Lithwanaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg
- Llenorion o Ymerodraeth Rwsia
- Marwolaethau 1982
- Nofelwyr Lithwanaidd yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Lithwanaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg
- Pobl o Vilnius