Ceredigion (cylchgrawn)
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, cylchgrawn ![]() |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1951 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1951 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Transactions and archaeological record, Cardiganshire Antiquarian Society ![]() |
Lleoliad cyhoeddi | Aberystwyth ![]() |
Prif bwnc | Sir Aberteifi ![]() |
Cylchgrawn hanes lleol blynyddol yw Ceredigion yn ymwneud â hanes Ceredigion, Cymru, a gyhoeddir gan Gymdeithas Hanesyddol Ceredigion.
Sefydlwyd Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi / Cardiganshire Antiquarian Association yn 1911 i hyrwyddo dealltwriaeth o hanes ac archaeoleg y sir. Yn 2002 newidiwyd yr enw i Gymdeithas Hanesyddol Ceredigion. Cyhoeddodd y Gymdeithas eu Trafodion (Transactions and Archaeological Record of the Cardiganshire Antiquarian Association) o 1911 hyd at 1938.
Ym 1951 cychwynnwyd Ceredigion: Cylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi (Saesneg: Ceredigion: Journal of the Cardiganshire Antiquarian Society). Yn 2002 fe'i ail-enwyd yn Ceredigion: Cylchgrawn Cymdeithas Hanesyddol Ceredigion (Saesneg: Ceredigion: Journal of the Ceredigion Historical Society). Mae’n cynnwys erthyglau hanesyddol, adolygiadau ar lyfrau ynghyd â nodiadau ar y Gymdeithas. Saesneg yw’r iaith gan mwyaf ond mae rhywfaint o’r cynnwys yn Gymraeg.
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido yn rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg)Transactions and Archaeological Record of the Cardiganshire Antiquarian Association ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein
- (Saesneg)Ceredigion: Journal of the Cardiganshire Antiquarian Society ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein
- (Saesneg)Ceredigion: Journal of the Ceredigion Historical Society ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein
- gwefan Cymdeithas Hanes Ceredigion Archifwyd 2012-02-27 yn y Peiriant Wayback.