Cainosöig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cenozoic)
Yr Oes Cainosöig
65.5 - 0 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Digwyddiadau Cainosöig
Llinell amser bras o ddigwyddiadau o fewn yr Oes Cenosöig.
Graddfa'r echel: Miliwn o flynyddoedd CP.

Cainosöig, Cainosoig neu weithiau Oes y Mamaliaid[1] (Saesneg: Cenozoic) sy'n tarddu o'r gair Groeg am "fywyd newydd" yw'r Gorgyfnod (neu era) presennol rydym yn byw ynddi, y ddiweddaraf o dri: Paleosöig, Mesosöig a'r Cainosöig.

Ar ddechrau'r oes Cainosöig, yn dilyn y 'Digwyddiad Difodiant Cretasig-Paleogen' (Cretaceous-Paleogene Extinction Event), ffawna digon bychan oedd ar hyd a lled y ddaear, gan gynnwys adar, ymlusgiaid ac amffibiaid. Datblygodd mamaliaid i lenwi'r bwlch a adawyd gan ddifodiant anifeiliaid mawrion fel y dinosoriaid yn sydyn iawn (mewn termau daearegol). Y newid hwn yw diwedd cyfnod y Mesosöig a dechrau'r cyfnod hwn, sef y Cainosöig. Tyfodd rhai adar nad oeddent gynt yn medru hedfan yn greaduriaid mawr iawn - rhai ohonynt dros ddwy fetr. Lledodd y mamal dros fôr a thir gan esblygu i bob math o hinsawdd gyda rhai ohonynt yn fawr (y morfil).

Hinsawdd[golygu | golygu cod]

Dyma gychwyn cyfnod o sychu ac oeri, gan ddod i'w anterth yn y Rhewlifiad cwaternaidd yn yr epoc Pleistosen. Dyma hefyd gychwyn gweld y cyfandiroedd yn ffurfio i'w gwedd bresennol, gan symud hefyd i'w safle bresennol.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r gair Cainosöig o ddau air Groeg: καινός (kainos) "newydd", a ζωή (zoe) sef "bywyd".[2]) Yr enw cyffredin (yn hytrach na gwyddonol) arni yw 'Oes yr Anifeiliaid' oherwydd i sawl grŵp o anifeiliaid ddod i ben, gan adael lle gwag i amrywiaeth eang o famaliaid ddatblygu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Porth Termau Cenedlaethol Cymru; adalwyd 27 Hydref 2015
  2. "Cenozoic". Online Etymology Dictionary.