Ceinwen Rowlands

Oddi ar Wicipedia
Ceinwen Rowlands
Ganwyd15 Ionawr 1905 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mehefin 1983 Edit this on Wikidata
Ysbyty Clattebridge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Sir i merched, Bangor Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Soprano Gymreig oedd Ceinwen Rowlands (15 Ionawr 190512 Mehefin 1983).[1] Ymddangosodd Ceinwen ar lwyfan gyda Kathleen Ferrier, ac enwogion eraill y cyfnod.[2]

Ganwyd Ceinwen ym Morthaethwy, Ynys Môn, yn ferch i William a Kate Rowlands (neé Jones) a oedd yn rhedeg yr “Anglesey Emporium”, siop ddillad dynion yn y dref, tan iddo ymddeol yn 1929. O Gerigydrudion, Sir Ddinbych yr hanai Kate ei mam yn wreiddiol, ac roedd hithau'n gantores amlwg yn ei dydd. Addysgwyd Ceinwen yn Ysgol Morgan Jones, Caergybi, ac yna yn Ysgol Sir y Merched, Bangor. Tra yn yr ysgol, astudiodd ganu am naw mlynedd gyda Robert (neu Wilfred) Jones.

Cystadlu a gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi iddi ennill dwy wobr gyntaf am ganu yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr Wyddgrug 1923 a Phwllheli 1925 derbyniodd lawer o ymrwymiadau i ganu ledled Cymru ac fe'i derbyniwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1927, y flwyddyn pan drodd yn gantores broffesiynol. Aeth i'r Coleg yn Llundain yn Ionawr 1930 lle'r astudiodd wrth draed Plunket Greene a Mabel Kelly; datblygodd i fod yn un o brif gantorion soprano Cymreig ei chenhedlaeth, ac roedd galw mawr am ei gwasanaeth mewn cyngherddau a darllediadau radio. Canodd yng nghyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol ar nifer o adegau, gan gynnwys y perfformiad Cymraeg cyntaf o Emyn o Fawl (Lobgesang), gan Mendelssohn, yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1943. Roedd yn un o leisiau bale Ninette de Valois, Orpheus and Eurydice yn 1941.[3] ac yn un o brif unawdwyr yn Messiah yn Cradley Heath yn 1945.[4]

Yn ei chyfnod euraidd, perfformiodd mewn dros 200 o berfformiadau.[5]

Priododd yn 1946 ag Arthur Walter, brodor o deulu Cymreig, o Portsmouth, a ddaliai swydd Prif Dderbynnydd Swyddogol mewn Methdaliadau. Bu ef farw yn 1967. Symudodd i Lundain yn 1972, ac ar ôl treulio dros ddeugain mlynedd yno symudodd i'r Rhyl.[5]

Recordiadau[golygu | golygu cod]

Recordiodd nifer o eitemau Cymraeg i gwmni Decca, gan gynnwys caneuon gan Meirion Williams, D. Vaughan Thomas, Mansel Thomas a Morfydd Llwyn Owen.[6].

  • Decca 2; AM 626; DR 12795-1: Welsh Music (Cerddorfa Boyd Neel gyda Mansel Thomas; dim dyddiad)[7]
  • Decca 2; AM 627; DR 12793-1: Welsh Music (Cerddorfa Boyd Neel gyda Mansel Thomas; dim dyddiad)
  • Decca 2; AM 627; DR 12794-1: Welsh Music (Cerddorfa Boyd Neel gyda Mansel Thomas; dim dyddiad)

Cau'r lleni[golygu | golygu cod]

Bu farw 12 Mehefin 1983 yn ddi-blant, yn ysbyty Clatterbridge, Swydd Gaer, ac amlosgwyd ei chorff ym Mae Colwyn, 16 Mehefin 1983.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]