Caill

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ceilliau)
Caill
Enghraifft o'r canlynolmath o organ, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathgonad, organ llabedog, male organ, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Organau cenhedlu gwrywaidd
  1. pledren
  2. gwerddyr (pwbis)
  3. pidyn, cal(a)
  4. corpws cafernoswm
  5. blaen pidyn (glans)
  6. blaengroen
  7. agoriad wrethrol
  8. coluddyn mawr
  9. rectwm
  10. fesigl semenol
  11. dwythell alldaflol (neu ffrydiol)
  12. chwarren brostad
  13. chwarren Cowper
  14. anws
  15. fas defferens
  16. argaill
  17. caill
  18. ceillgwd
Caill cath: 1 - Extremitas capitata, 2 - Extremitas caudata, 3 - Margo epididymalis, 4 - Margo liber, 5 - Mesorchium, 6 - Epididymis, 7 - rhydweli a gwythïen y ceilliau, 8 - Ductus deferens
Prif chwarennau endocrin: (Gwryw ar y chwith, benyw ar y dde)
1 Corffyn pineol 2 Chwarren bitwidol 3 Y chwarren theiroid 4 Hypothalmws 5 Chwarren adrenal 6 Pancreas 7 Ofari 8 Y ceilliau

Organ rhywiol dynol yw caill (lluosog: ceilliau). Y ceilliau yw'r organau rhyw wrywaidd sy'n gwneud sberm a'r hormon testosteron. Mae'r ddwy gaill yn y ceillgwd, sef sach islaw'r pidyn[1].

Mae sberm yn dechrau tyfu yn y ceilliau. Mae'r sberm yn teithio i'r argailliau, lle maent yn aeddfedu. Yn ystod alldafliad, mae sberm yn symud allan o'r argeilliau. Oddi yno, mae sberm yn symud trwy'r ddau fas defferens i'r wrethra (y tiwb sy'n rhedeg drwy'r pidyn) ac allan o'r corff.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r ceilliau yn chwarennau siâp hirgrwn cadarn. Fel arfer bydd y ddwy gaill yr un faint ond bydd gan ambell i ddyn ceilliau o wahanol faintioli, fel arfer ni fydd hynny'n broblem. Mae gan y rhan fwyaf o ddynion un caill sy'n hongian yn is na'r llall. Mae gwyddonwyr yn credu y gallai hyn fod i'w hamddiffyn rhag taro yn erbyn ei gilydd. Fel arfer, ond nid bob amser, y gaill chwith yw'r un sy'n hongian yn is. Mae maint caill arferol rhwng 14 cm³ a 35 cm³.

Mae'r ceilliau yn hongian yn y ceillgwd o'r llinyn sbermatig. Maent y tu allan i'r corff oherwydd bod angen iddynt fod yn oerach na'r tymheredd y tu mewn i'r corff, er mwyn gwneud sberm. Os bydd ceilliau dyn yn oer, fe'u tynnir yn agosach at y corff yn awtomatig. Mae'r llinyn sbermatig yn cael ei dynhau gan y cyhyrau cremasterig. Pan fydd y cyhyrau hyn yn contractio (yn tynhau) bydd y cord yn mynd yn fyrrach gan dynnu’r ceilliau yn nes at y corff. Os yw'r ceilliau yn rhy gynnes mae'r cyhyrau cremasterig yn ymlacio (yn mynd yn hirach.) Mae hyn yn gostwng y ceilliau i'w cadw'n oerach. Dyma sut y cedwir y ceilliau ar y tymheredd cywir. Gelwir hyn yn adwaith cremasterig. (Mae adwaith yn rhywbeth y mae eich corff yn ei wneud yn awtomatig heb ichi feddwl amdano.)

Mae yna ddefnyddiau eraill ar gyfer yr adwaith cremasterig yn ogystal â chadw tymheredd cywir y ceilliau. Pan fydd anifail gwrywaidd gyda cheilliau allanol yn cwffio bydd ei geilliau mewn perygl o gael eu hanafu, gan hynny bydd yr adwaith cremasterig yn digwydd er mwyn eu hamddiffyn. Gan hynny gall teimlo'n ofnus neu ddioddef o straen achosi'r adwaith hefyd. Mae'r adwaith cremasterig yn digwydd yn ystod cyfathrach rywiol hefyd.

Swyddogaeth[golygu | golygu cod]

Mae gan y ceilliau ddwy swyddogaeth bwysig yn y corff. Maent yn rhan o ddwy o systemau'r corff, y system endocrinaidd sy'n galluogi'r corff i weithio, a'r system atgenhedlu sy'n gwneud bywyd newydd.

Gwneud hormonau[golygu | golygu cod]

Mae'r ceilliau yn gwneud sawl math o sylweddau cemegol. Nid cemegau syml ydyn nhw, ond maent yn gymhleth iawn ac yn bwysig iawn i fywyd. Mae gwneud y sylweddau hyn yn cael ei reoli gan y chwarren bitẅidol sy'n chwarren fach yn yr ymennydd. Un sylwedd a wneir gan y ceilliau yw'r hormon testosteron. Mae testosteron yn bwysig mewn corff person gwrywaidd, gan ei fod yn ei wneud i dyfu i fod yn ddyn ac yn teimlo fel dyn yn ystod glasoed. (Mae cyrff menywod yn gwneud rhywfaint o destosteron hefyd, ond maen nhw'n gwneud mwy o hormon benywaidd o'r enw estrogen.)

Sbermatogenesis[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â bod yn chwarennau sy'n cynhyrchu cemegolion, mae ceilliau hefyd yn onadau. Mae hyn yn eu gwneud yn rhan o system atgenhedlu'r corff. Heblaw am hormonau, y sylwedd pwysig arall a gynhyrchir gan y ceilliau yw spermatosoa, sydd fel arfer yn cael eu galw'n sberm. Mae'r sberm yn gelloedd byw bach a all ymuno â chell arall, o'r enw ‘ofwm’ (neu ŵy) y tu mewn i fenyw, i ddechrau bywyd dynol newydd. Mae bechgyn yn dechrau gwneud sberm pan fyddant yn dechrau tyfu i mewn i ddynion, ar adeg o fywyd o'r enw glasoed.

Nid oes gan fenywod geilliau. Gelwir y chwarennau yn eu cyrff sy'n gwneud yr un math o swyddi â'r ceilliau yn ofarïau. Mae ganddynt ddwy ofari, ond yn wahanol i'r ceilliau, mae'r ofarïau yn y tu mewn i'r corff, ar y naill ochr i'r groth. Maent yn rhyddhau ofa (neu wyau) a hormonau benywaidd.

Strwythur[golygu | golygu cod]

Mae'r ceilliau yn cael eu cwmpasu gan gragen bilennog wydn o'r enw tunica albuginea. O fewn y ceilliau mae tiwbiau torchog - y tiwbynnau semen. Mae'r tiwbynnau wedi'u gorchuddio â haen o gelloedd (sbermatosoa) sy'n datblygu o lasoed trwy henaint i mewn i sbermatosoa[2].

Mae'r sberm yn mynd trwy ddwythellau i'r argaill sydd tu ôl i'r caill a lle mae'r sbermatosoa yn aeddfedu. Yna mae'r sbermatosoa'n teithio ar hyd tiwb o'r enw fas defferens nes iddynt gyrraedd y wrethra. Y wrethra yw prif bibell yn y pidyn ac mae'n arwain at y twll ar ben y pidyn (o'r enw'r agoriad wrethrol). Mae'r agoriad wrethrol hefyd yn caniatáu i wrin gadael y corff o'r bledren.

Pan fydd dyn yn teimlo awydd rhywiol, mae sbermatosoa yn mynd trwy'r ddwythell alldaflol. Fe'u cyfunir â hylif semenol o chwarren y brostad. Mae gan y brostad hefyd gyhyrau sy'n gwthio'r sberm a'r hylif i'r wrethra. Yn ystod cyfathrach rywiol, mae hylif semenol sy'n cynnwys y sberm yn dod allan trwy'r agoriad wrethrol pan fydd dyn yn alldaflu. Os bydd y sberm o'r ceilliau yn mynd i mewn i fagina fenyw yn ystod cyfathrach rywiol, gall fynd heibio i'r groth a ffrwythloni ofwm aeddfed (neu wy) i greu sygot.

Clefydau[golygu | golygu cod]

Hunanarchwiliad o'r ceilliau am ganser

Ymysg y clefydau sy'n effeithio ar y ceilliau yw:

  • Llid y ceilliau (ceillwst, orcitis)
  • Canser y ceilliau[3]
  • Bors ddŵr (cwd(yn) dŵr, hydrocele)
  • Llid yr argaill (epididymitis)
  • Dirdro yn y cortyn sbermatig[4].
  • Gwythiennau chwyddedig

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am caill
yn Wiciadur.