Ceillgwd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ceillgwd

Y ceillgwd, y cwdyn neu'r sgrotwm yw'r bag sy'n dal y ceilliau mewn rhai mamaliaid gwrywaidd. Fe'i gwneir o groen a chyhyrau ac fe'i darganfyddir rhwng y pidyn a'r anws. Fe'i cwmpesir yn aml mewn gwallt pwbig[1].

Swyddogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r ceillgwd yn rheoleiddio tymheredd y ceilliau ac yn eu cadw ar 35 gradd Celsius (95 gradd Fahrenheit), hy dwy radd islaw tymheredd y corff o 37 gradd Celsius (98.6 gradd Fahrenheit). Mae tymheredd uwch yn effeithio ar sbermatogenesis. Mae'r rheoli tymheredd yn cael ei gyflawni gan gyhyrau llyfn y sgrotwm yn symud y ceilliau naill ai'n agosach at neu yn ymhellach i ffwrdd o'r abdomen yn dibynnu ar y tymheredd amgylchynol. Mae hyn yn cael ei gyflawni gan y cyhyrau cremaster yn yr abdomen a'r dartos fascia (meinwe cyhyrol o dan y croen).

Gall cael y ceillgwd a'r ceilliau y tu allan i geudod yr abdomen ddarparu manteision ychwanegol. Nid yw pwysedd yr abdomen yn effeithio ar y ceillgwd allanol. Gall hyn atal gwagio'r ceilliau cyn aeddfedu'r sberm yn ddigonol ar gyfer ffrwythloni. Mantais arall yw ei fod yn diogelu'r ceilliau rhag ysgytiadau a chywasgu sy'n gysylltiedig â ffordd fywiog o fyw. Mae gan anifeiliaid sy'n symud ar gyflymder cyson - fel eliffantod, morfilod, a gwahaddod - ceilliau mewnol a dim ceillgwd.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Encyclopædia Britannica Scrotum adalwyd 29 Ionawr 2018


Skull template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.