Chwarren bwlbwrethral

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Organau cenhedlu gwrywaidd
Organau cenhedlu gwrywaidd.png
  1. pledren
  2. pwbis
  3. pidyn, cala, neu penis
  4. corpus cavernosum
  5. glans
  6. blaengroen
  7. agoriad yr wrethra
  8. coluddyn mawr
  9. rectwm
  10. fesigl semenol
  11. dwythell alldafliadol
  12. chwarren brostad
  13. Chwarren bwlbwrethral
  14. anws
  15. vas deferens
  16. epididymis
  17. caill
  18. sgrotwm

Mae'r chwarren bwlbwrethral, a elwir hefyd yn chwarren Cowper yn un o ddwy chwarren siâp pysen yn y gwryw. Maent wedi eu lleoli o dan y chwarren brostad ar ddechrau rhan fewnol y pidyn. Maent yn ychwanegu hylifau i semen yn ystod y broses alldaflu. Mae'r chwarennau yn cynnwys dwythellau sy'n gwagio i'r wrethra, tiwb bydd wrin a semen yn mynd trwyddi. Maent yn cynnwys rhwydwaith o diwbiau a sachau bach. Rhwng y tiwbiau mae ffibrau cyhyr a meinwe elastig sy'n rhoi cynhaliad strwythurol i'r chwarennau. Mae celloedd yn y tiwbiau a'r sachau yn cynnwys defnynnau o fwcws protein trwchus. Mae'r hylif sy'n cael ei ysgarthu gan y chwarennau hyn yn glir ac yn drwchus ac yn gweithredu fel iraid. Credir hefyd ei bod yn gweithredu fel asiant fflysio sy'n glanhau'r wrethra cyn i'r semen gael ei alldaflu. Gall hefyd helpu i wneud y semen yn llai dyfrllyd ac i ddarparu amgylchedd byw addas ar gyfer y sberm[1].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Inner body Cowper's Gland adalwyd 29 Ionawr 2018


Skull template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.