Vas deferens

Oddi ar Wicipedia
Llun o'r clasur hwnnw, Gray's Anatomy

Gair Lladin yw fas defferens sy'n golygu 'pibell i gario ymaith'; weithiau, fe'i ysgrifennir yn Gymraeg fel 'fas defferens'.[1], ac fe'i ceir mewn corff dyn a'r gwryw mewn ambell rywogaeth arall. Gwaith y ddwythell yw cario sberm o'r argaill i'r ddwythell ffrydiol.

Adeiledd[golygu | golygu cod]

Ceir dwy bibell o bobtu'r pidyn wedi'u cysylltu â'r ddwy argaill (chwith a dde) i'r ddwythell ffrydiol gyda'r bwriad o drosglwyddo'r sberm. Mae'r ddwy bibell oddeutu 30 centimetr o hyd yn y corff dynol ac wedi'i wneud o gyhyrau llyfn.

Cyflenwad gwaed[golygu | golygu cod]

Mae rhydweli'r fas defferens yn rhedeg yn gyfochrog i'r fas defferens ei hun, rhydweli sy'n tarddu yn y rhydweli pothellol fwyaf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, 1995
Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.