Castelo da Rocha Forte
Cyfesurynnau: 42°51′39.10″N 8°34′22.86″W / 42.8608611°N 8.5730167°W
Gwybodaeth gyffredinol | |
---|---|
Math | Castell |
Arddull bensaernïol | Gothic (XIII canrif) |
Lleoliad | Santiago de Compostela |
Cyfeiriad | Corunna, Galisia |
Gwlad | Sbaen |
Codiad | 185m uwchlaw lefel y môr |
Caewyd | 1467 |
Technical details | |
Arwynebedd y llawr | 4,000 msg |
Cynllunio ac adeiladu | |
Perchennog | Yr Eglwys Babyddol |
Saif adfail Castell Rocha Forte (Castelo da Rocha Forte neu weithiau Castelo dos Churruchaos) yn ardal Santiago de Compostela, Galisia, sy'n wlad ymreolaethol yn Sbaen. Cafodd y castell ei adeiladu gan Juan Arias fel lloches i'r Archesgob Pabyddol yn 1240 ac fe'i dymchwelwyd yn y "Rhyfel Mawr" gan y chwyldroadwyr Galisiaidd - yr Irmandiña - yn nechrau chwyldro 1467. Bu'r castell hwn am gyfnod o tua 227 mlynedd yn symbol o gryfder a chyfoeth yr Eglwys Babyddol.
Saif 185m uwchlaw lefel y môr ar 'Yr Hen Graig', a heddiw, ceir rheilffordd wrth ei ochr. Mae arwynebedd y tir lle saif y castell oddeutu 4,000 metr sgwâr ac mae'n eiddo i Archesgob Pabyddol Santiago. Yr hyn sy'n wahanol iawn am y castell hwn yw ei leoliad: llawr y dyffryn yn hytrach na chopa bryn. Y rheswm dros hyn, mae'n debyg oedd er mwyn rheoli'r mynd-a'r-dod gan godi trethi wrth wneud hynny. Mae wedi'i leoli rhwng trefi Noia a Padrón, ar lan Afon Sar.[1]
Gerllaw, saif Castriño Conxo, heneb sy'n dyddio'n ôl o bosib i 300 CC.
Rhyfel Mawr Irmandiña
[golygu | golygu cod]- Prif: Rhyfel Mawr Irmandiña
Yng ngwanwyn 1467 y taniwyd y wreichionen gyntaf pan oedd y werin bobl, merched, morwyr a gwŷr yr eglwys wedi cael llond bol o afiechydon (e.e. epidemig 1466), newyn a chael eu trin yn wael gan uchelwyr y wlad. Ffurfiodd y werin frawdoliaeth sanctaidd (Santa Irmandade) a chynyddwyd eu niferoedd fel caseg eira oherwydd y teimladau dwfn eu bod wedi cael eu camdrin am gyhyd. Bron cyn gynted ag y ffurfiwyd y Frawdolaeth ymosodwyd ar Castelo da Rocha Forte a'i drechu.
Chwyldro cymdeithasol a chenedlaetholgar rhwng 1467 a 1469 gan bobl Galisia oedd 'Rhyfel Mawr Irmandiña'. Yr enw Galisieg ar y chwyldroadwyr oedd Yr Irmadiños, a chlensiwyd eu hymgyrch gan orthrwm Teyrnas Castilla arnynt.[2][3]
Yn 1469 dechreuodd Pedro Madruga wrthymosodiad o Bortiwgal, gyda chefnogaeth llawer o'r uchelwyr a oedd yno ar ffo. Cefnogwyd ef hefyd gan frenhinoedd Portiwgal a Chastilla a byddin arfog archesgob Santiago de Compostela.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Ers 2001 mae yma ymchwil archaeolegol ar y gweill, gan i'r heneb gael ei chofrestru fel un o bwysigrwydd cenedlaethol. Roedd naw tŵr i'r castell, mewn ffurf consentrig, nid yn annhebyg i Gastell Biwmares. Ymhlith y creiriau a ddarganfuwyd yma y mae darnau o serameg, arian y cyfnod a pheli canon.[4] pezas de canles e pezas de elementos arquitectónicos, así como un bastión de forma trapezoidal que se apoia na roca en bo estado de conservación.[5]
-
Wal y gogledd-orllewin
-
Gwaelod un o'r tyrau
-
Canol y castell
-
Grisiau carreg i lawr i stordy
-
Cerrig a ddefnyddiwyd yn y canonau i ymosod ar y castell
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Castriño de Conxo - heneb o oddeutu 300 CC gyda sgythriadau ar wal ogof, luniau arfau gan fwyaf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Fonte documental fundamental para o coñecemento do patrimonio do arcebispado de Santiago de Compostela nos séculos XV e XVI, dos feitos relacionados coas revoltas irmandiñas e os conflitos señoriais do convulso século XV galego.
- ↑ . ISBN 0-19-820548-1. Unknown parameter
|ano=
ignored (help); Unknown parameter|autor=
ignored (|author=
suggested) (help); Unknown parameter|título=
ignored (|title=
suggested) (help); Unknown parameter|publicación=
ignored (help); Missing or empty|title=
(help) - ↑ As primeiras revoltas medievais xa tiveran lugar en Europa durante a segunda metade do século XIV, despois da peste negra de 1348: a Jacquerie na Francia en 1358 ou a Revolta campesiña de 1381 en Inglaterra
- ↑ Sendo os máis representados o O, o + e un con forma de morro.
- ↑ Os traballos foron realizados polo equipo de investigación Arqueopat GI-1533, dirixido por Raquel Casal García e Fernando Acuña Castroviejo.
- Devia, Cecilia (2009). La violencia en la Edad Media: la rebelión irmandiña. Biblioteca de Escrituras Profanas, 18 (yn Spanish). Vigo: Academia del Hispanismo. ISBN 978-84-96915-49-7.CS1 maint: unrecognized language (link)
- MacKay, Angus (1977). Spain in the Middle Ages: From Frontier to Empire, 1000–1500. New York: St. Martin's Press. ISBN 0-312-74978-3.
- Payne, Stanley G. (1973). A History of Spain and Portugal. 1. Madison: University of Wisconsin Press. ISBN 0-299-06270-8.
- Vicens Vives, Jaime (1967). Approaches to the History of Spain. Berkeley: University of California Press.