Pedro Madruga

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pedro Madruga
GanwydPedro Álvarez de Soutomaior
c. 1430
Pontevedra, Castile
Bu farw1486
Alba de Tormes, Castile
CenedligrwyddGalisiad
Yn enwog amYmladd
GalwedigaethMarchog
OlynyddAlvar Paez de Soutomaior
PlantÁlvaro de Soutomaior, Fernando, Diego, Alfonso, Mayor, Cristóbal, Constança, a María [1].
RhieniFernán Yáñez de Sotomaior (tad) a
Constança Gonçalves
Teitl: Iarll Camiña

Marchog Galisiaidd poblogaidd oedd Pedro Álvarez de Soutomaior, Count of Caminha, a adnabyddir ar lafar fel Pedro Madruga (c. 1430 - 1486). Ei elyn pennaf oedd Alfonso II o Fonseca a'r gwrthryfelwyr Galisaidd, yr Irmandiña. Wedi cryn frwydro, daeth holl diroedd de Galisia o dan feddiant Pedro. Yn llythrennol, ystyr ei enw yw 'Pedro - y boregodwr'.

Derbyniodd addysg babyddol, Ladin gan fynachod Dominiciaid ger Tuy, un o faestrefi dwyreiniol Pontevedra.

Mynn un chwedl mai'r un person oedd Pedro a Christopher Columbus;[2] mae hefyd yn bosibl mai'r un person oedd mab y ddau. Dysgodd sut i fordwyo (neu fforio) llongau am 23 mlynedd - yr union gyfnod a nododd Columbus yn ei ddyddiaduron.

Cartref ei deulu oedd Castell Soutomaior, a leolwyd mewn safle allweddol yn nyffryn Afon Verdugo, ychydig gilometrau o ddinas Pontevedra ac sy'n dal i sefyll. Mae'r castell yn esiampl rhagorol o gaer amddiffynol o'r Oesoedd Canol ac yn dyddio'n ôl i'r 12g, ond a ddatblygwyd ymhellach yn y 15g. Ceir waliau allanol o siap ofal, sy'n anghyffredin iawn, ac sy'n amddiffyn dau dŵr a gysylltir â phont, ffos a phont grog.[3]

Yn ôl Vasco da Ponte:

"Roedd Pedro'n gyffrwys, yn ddeallus ac yn wybodus mewn rhyfel. Roedd yn ddidwyll, a pharchodd y rhai a oedd yn driw iddo, gan eu trin yn dda; ond roedd yn greulon tuag at ei elynion. Ni fedrodd glaw, eira, rhew na stormydd mo'i atal rhag gwneud ei waith, ac yn aml, byddai'n cysgu y tu allan i adeilad - neu ar fwrdd pren, caled, heb liain drosto."[4]

Ni cheir llawer o wybodaeth amdano ar ôl 1487. Credir iddo ffugio'i farwolaeth ei hun, fel rhan o gynllun rhyngddo a Brenhinoedd Pabyddol Galisia.

Gwrthryfel 1468[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1468 gwelwyd ail wrthryfel Irmandina, ger Tui, ble addysgwyd Pedro. Chwydro oedd hwn, gan werin yr ardal, a gipiodd llawer o diroedd yr uchelwyr, gan eu hel i Bortiwgal ar ffo. Casglodd Pedro lawer o'r gwŷr hyn, a'i fyddin ef, mewn gwirionedd, oedd y cyntaf i ddefnyddio gynnau or enw 'arcabuzes' yn yr ardal a adnabyddir heddiw fel Sbaen. Pedro a gariodd y dydd, a dychwelwyd y tiroedd yn ôl i'w farchogion triw. Yn ystod y gwrthryfel hwn y priododd Teresa de Tavora ym Mhortiwgal.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Páxina de xenealoxía, comprobando fillos de Tareixa de Távora con Pedro Álvarez
  2. ´Tras un peritaje caligráfico 80 expertos indican que Colón y Pedro Madruga son la misma persona´ Faro de Vigo
  3. www.spainisculture.com; adalwyd 29 Mehefin 2015
  4. Aponte, Vasco de, Recuento de las Casas Antiguas del Reino de Galicia, Int. e Edi. Crítica con notas, Santiago de Compostela, 1986.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]